Ysgolion i ailagor 'yn raddol' wrth lacio'r rheolau
- Cyhoeddwyd
Bydd ysgolion yn cael eu hailagor "yn raddol" pan mae cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio, yn ôl y Gweinidog Addysg Kirsty Williams.
Wrth amlinellu pum egwyddor i benderfynu pryd ac ym mha ffordd y byddai hynny'n digwydd, does dim disgwyl iddi nodi amserlen ar gyfer unrhyw newidiadau.
Dywedodd Ms Williams nad oedd hi'n disgwyl i ysgolion agor yn sydyn "i bob disgybl, o bob blwyddyn, drwy'r wythnos".
Mae ysgolion wedi bod ar gau i'r rhan fwyaf o blant ers dros fis, ond mae rhai wedi aros ar agor i roi gofal i blant gweithwyr hanfodol a disgyblion bregus.
'Addasu'n raddol'
Dywedodd y Gweinidog Addysg y byddai "dull graddol o ganiatáu i fwy o ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol".
Byddai ysgolion yn "addasu'n raddol ac yn ehangu ymhellach yn ystod y cyfnod nesaf" yn unol â chynllun Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ar gyfer newidiadau i gyfyngiadau, meddai.
Fe fydd Ms Williams yn cyhoeddi pum egwyddor i benderfynu sut i fynd ati i ehangu gweithgareddau ysgolion:
Diogelwch, a lles meddyliol, emosiynol, a chorfforol myfyrwyr a staff;
Cyfraniad parhaus i'r ymdrech a'r strategaeth genedlaethol i frwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19;
Hyder rhieni, staff a myfyrwyr - yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth - fel y gallan nhw gynllunio ymlaen llaw;
Y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd difreintiedig;
Cysondeb â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau, i sefydlu arweiniad i gefnogi mesurau fel pellhau, rheoli presenoldeb a chamau amddiffyn ehangach.
'Gobeithiol'
Dywedodd Ms Williams bod y ddealltwriaeth ddiweddaraf o gyfradd trosglwyddo Covid-19 "yn obeithiol, ond mae dal gofyn i ni fod yn ofalus."
"Dim ond pan fydd y dystiolaeth a'r cyngor yn awgrymu mai dyma'r peth iawn i'w wneud y byddwn yn symud tuag at y cam nesaf," meddai.
Ychwanegodd y byddai staff ysgolion, rhieni a disgyblion yn cael gwybod am unrhyw benderfyniadau ynglŷn ag ysgolion mewn da bryd i'w caniatáu i gynllunio.
"Ni fydd ysgolion yn dychwelyd ar unwaith i weithredu i'w niferoedd llawn," meddai.
"Bydd yn broses raddol ac nid wyf yn disgwyl y bydd ysgolion yn sydyn ar agor i bob disgybl, o bob blwyddyn, drwy'r wythnos."
Gan alw gweithwyr ysgolion a gofal plant yn "arwyr cenedlaethol," dywedodd y byddai ysgolion yn cael eu paratoi ar gyfer "ystod eang" o sefyllfaoedd posib, gan gynnwys "sefyllfa sy'n gofyn i ysgolion leihau eu gweithredu ar adegau penodol yn y dyfodol", er mor annhebygol oedd hynny.
Fe fydd y gweinidog yn ymddangos gerbron Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yn ddiweddarach ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020