Gofalwyr pobl hŷn yn gwneud mwy nag sydd raid i helpu
- Cyhoeddwyd
I ofalwyr sy'n ymweld â phobl hŷn yn eu cartrefi, mae'r pwysau a'r heriau wedi dwysau yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda nifer fawr yn mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau arferol er mwyn cynorthwyo pobl fregus.
Mae gan Gofal Cymru swyddfa yn Llechryd ger Aberteifi, ac mae'r tîm o ofalwyr yn teithio i gartrefi yng Ngheredigion a Sir Benfro.
Barbara Edwards yw'r is-reolwraig, ac mae hi'n gwerthfawrogi ymrwymiad ei staff yn ystod y cyfnod presennol.
"Ma'r staff sy' gyda ni yn mynd over and above," meddai Barbara.
"Ma' nhw'n gwneud yn siŵr bo' popeth 'da'r cleifion. Ma' nhw wastad 'di gwneud hynny.
"Ond nawr ma' nhw'n siopa neu os oes eisie glanhau rhywbeth yn ychwanegol, ma' nhw'n neud e.
Gwasanaeth allweddol
"Ma'r gwaith nawr yn fwy trwm. Wrth wisgo'r PPE, mae'n fwy twym, ma'r mwgwd yn stopio communication a mae lot mwy anodd i ni roi gofal.
"Hefyd, ma'n rhaid i ni 'neud yn berffaith siŵr bo' ni'n saff. Achos os y'n ni'n saff, mae'n golygu bod y cleifion yn saff."
Mae gwasanaeth gofalwyr yn y gymuned yn allweddol ar hyn o bryd, gan fod y cyfyngiadau presennol yn atal teuluoedd rhag ymweld â'u hanwyliaid.
Mae staff Gofal Cymru yn cysylltu'n rheolaidd â'r teuluoedd, y rhai sy'n byw ymhell ac agos, ac yn aml yn ddolen gyswllt.
"Pan ma'r staff mewn gyda nhw, ma' nhw'n gwneud galwad ffôn drostyn nhw, neu'n cysylltu 'da theulu sy'n byw bant," ychwanegodd Barbara Edwards.
"A hefyd, os yn cael caniatâd, ry'n ni'n hala llunie, ac ambell waith neud bach o Facetime."
Mae hi'n hynod ddiolchgar fod cyfarpar diogelwch ar gael i'r holl staff.
"Ma' Ceredigion a Sir Benfro wedi bod yn dda, yn cyflenwi ni bob wythnos, a hefyd ma' Prosiect Cymunedol Crymych wedi rhoi visors i ni, a ma'r rhain yn brilliant - ma'r staff i gyd yn gwisgo nhw.
"Ma' bobol leol 'di 'neud mygydau mas o gotwm a chwmni lleol lan yr hewl 'di rhoi hand rubs i ni."
Mae Barbara yn sylweddoli fod pobol hŷn yn colli eu teuluoedd wrth iddyn nhw orfod hunan-ynysu.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
"Bydde rhai yn hoffi cael perthynas draw atyn nhw, ond cyngor ni yw i beidio cael teulu draw, achos ni'n gallu mynd atyn nhw, a ni'n gorfod mynd i fannau eraill yn y gymuned," meddai.
Wedi taith fer i Aberteifi, mae Barbara Edwards yn ymweld â Jack Crofts yn ei gartref yn y dref.
O dan y cyfyngiadau presennol, dyw hi ddim yn bosib iddo fod yng nghwmni ei berthnasau, ac mae e'n colli ei deulu agosaf.
"Sai'n gweld yr wyrion a'r gor-wyrion. Ma' nhw'n byw yn agos ato fi. W'en nhw arfer popo draw, ond dim nawr," meddai Mr Crofts.
Ond mae gwasanaeth y gofalwyr yn golygu popeth iddo. "Pob clod i'r rhein - ma' nhw'n grêt," dywedodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020