31 marwolaeth coronafeirws 'heb eu cofnodi' yn Hywel Dda
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog iechyd wedi cadarnhau 31 o farwolaethau coronafeirws yng ngorllewin Cymru oedd heb eu cynnwys yn ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Hyd at ddydd Llun, roedd data diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos dim ond pum marwolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n cynnwys siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion.
Ond yn ystod adolygiad o systemau cofnodi'r holl fyrddau iechyd, fe ddaeth hi i'r amlwg bod yna "gamgyfrif cyson" wedi bod yn Hywel Dda.
Cafodd yr adolygiad ei gynnal yn dilyn methiant Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gofnodi ffigyrau coronafeirws dyddiol am fis.
Gwersi i'w dysgu
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod "diffyg dull gweithredu cyson" o ran sut mae byrddau iechyd Cymru yn cofnodi marwolaethau coronafeirws "yn arwain at y perygl o aneffeithlonrwydd".
O ganlyniad i beidio â defnyddio un system adrodd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dod ar draws oedi a dryswch yn y broses o gofnodi marwolaeth.
Dywedodd byrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda y byddan nhw'n defnyddio'r e-broses newydd o hyn ymlaen.
Dywedodd Vaughan Gething nad oedd yr hyn sydd wedi bod yn digwydd ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda wedi effeithio ar y "broses o gyfathrebu i deuluoedd unigol" a bod y teuluoedd hynny a oedd wedi colli anwyliaid wedi cael gwybod ar y pryd.
Fe gadarnhaodd heddiw fod yr holl systemau adrodd bellach yn "gyson".
"Rydyn ni'n hollol glir nawr, bod yr holl systemau adrodd yn gyson, mae pawb yn mynd i ddefnyddio'r un dull o adrodd," meddai.
"Dylai hynny wedyn olygu y bydd y ffigyrau heddiw ac yfory yn hollol gyfoes.
"Yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw nad yw'n newid ein dealltwriaeth o broffil y clefyd ledled Cymru.
"Ond yn sicr mae gwersi i'w dysgu wrth i ni symud ymlaen trwy hyn am sut mae bob rhan o'n system yn rhannu gwybodaeth â'n gilydd, ac yna o ran hyder y cyhoedd.
"Ond hefyd felly bod gweinidogion yn gallu gwneud dewisiadau a darparu gwybodaeth i'r cyhoedd."
'Newid digynsail'
Cafodd yr adroddiad ei baratoi i'r llywodraeth wedi methiannau ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i drosglwyddo cofnodion marwolaethau i Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ynddo mae'n dod i'r casgliad nad yw'r "e-ffurflen (ar hyn o bryd) wedi'i chymeradwyo na'i gweithredu ar draws yr holl fyrddau iechyd".
"Er ein bod wedi derbyn sicrwydd gan yr holl fyrddau iechyd eraill eu bod yn darparu data i'r diffiniad y cytunwyd arno, er gwaethaf peidio defnyddio'r e-ffurflen, mae diffyg dull cyson yn arwain at risg o wyro ac aneffeithlonrwydd."
Ychwanegodd yr adroddiad fod "Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gweithio'n agos drwy'r pandemig ar bob cam".
"Mae'n parhau i fod yn aneglur beth allai fod wedi sbarduno'r bwlch hwn wrth adrodd yn benodol i ICC heblaw am oruchwyliaeth weinyddol, sy'n digwydd ar adeg o newid digynsail yng nghyfnod cynnar pandemig, gyda sawl proses adrodd gwahanol ar waith.
"Daeth y bwrdd iechyd yn ymwybodol o'r mater ar Ebrill 18 pan ddaeth yr anghysondeb yn amlwg wrth gyhoeddi data lleol am y tro cyntaf ar ddangosfwrdd ICC."
Wrth ymateb dywedodd Helen Mary Jones, AC Plaid Cymru ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru, fod y cadarnhad bod rhagor o farwolaethau wedi'u tangofnodi yn "destun pryder mawr".
"Mae'n ddychrynllyd ei bod wedi cymryd cyhyd i Lywodraeth Cymru sylweddoli bod problem," meddai.
Ychwanegodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Angela Burns ei bod wedi ei "synnu'n llwyr" a'i bod wedi gofyn am esboniad gan brif weithredwr y bwrdd iechyd.
"Mae'r diffyg cysondeb yn yr adrodd yn debygol o roi sgiw ar y canlyniadau, a'r camau sydd angen eu cymryd er mwyn taclo coronafeirws," meddai.
Pryder lleol
Mae cynghorwyr yn yr ardal hefyd wedi mynegi pryder fod yr oedi wrth ddiweddaru'r ffigyrau wedi rhoi camargraff i bobl nad oedd y pandemig mor wael yn y gorllewin mewn gwirionedd.
"Byddai'n gwneud synnwyr fod y cyhoedd wedi credu nad oedd problem yma ac felly y dylen ni lacio cyfyngiadau, pan mae'r dystiolaeth yn dangos mewn gwirionedd nad oedd hynny'n wir," meddai deilydd y portffolio iechyd ar Gyngor Sir Gâr, Gareth John.
Ychwanegodd Michael Williams, cynghorydd yn Sir Benfro: "Roedd un ddynes yma ddoe yn dweud ei bod hi'n dod lawr yma am nad oedd trafferth rownd ffordd hyn gyda Covid-19.
"Maen nhw wedi cael eu harwain i feddwl hyn drwy fethiant Hywel Dda i roi'r wybodaeth gywir i ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2020