Covid-19 yn 'hollol drychinebus' i bobl sy'n gamblo
- Cyhoeddwyd
Mae'r pandemig coronafeirws yn "hollol drychinebus" i bobl sydd gaeth i gamblo, yn ôl un Aelod Seneddol Llafur.
Dywedodd Carolyn Harris, AS Dwyrain Abertawe fod ffactorau fel diflastod ac arian ychwanegol yn sgil saib ad-dalu'r morgais oherwydd Covid-19 yn cynyddu'r risg o fynd yn gaeth i hapchwarae.
Mae'n dweud fod pobl yn ailddechrau gamblo ar ôl gweld hysbysebion ar-lein.
Ddechrau'r wythnos, fe gyhoeddodd y corff sy'n cynrychioli siopau betio a chwmnïau hapchwarae ar-lein na fydd yna hysbysebion gamblo ar y radio neu'r teledu tra bo'r gorchymyn mewn grym i bobl aros adref.
Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod angen ymestyn y cam i'r cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd marchnata uniongyrchol.
'Canlyniadau anfwriadol'
Dywedodd Mrs Harris bod ganddi "bryderon anferth ynghylch gallu'n diwydiant yma i ddenu a chaethiwo pobl dan amgylchiadau normal... ac mae ond am fynd yn waeth".
"Fydd hynny, i raddau helaeth, oherwydd diflastod, yn enwedig yn niffyg chwaraeon ar y teledu - bydd pobl yn troi at wahanol ffyrdd o fwynhau a diddanu eu hunain," meddai.
Mynegodd Mrs Harris bryder fod canlyniadau anfwriadol i'r cynlluniau i helpu'r cyhoedd ymdopi'n ariannol tan ddiwedd y pandemig.
"Bydd pobl â phroblem ddim yn gorfod talu'r morgais, rhent, treth cyngor na'u cerdyn credyd ar ôl egluro i'r benthycwyr eu bod wedi colli gwaith neu ar furlough," meddai.
"Bydd gyda nhw arian ychwanegol ac yn defnyddio hwnnw i gamblo."
Mae Mrs Harris yn croesawu'r gwaharddiad dros dro ar hysbysebion radio a theledu ond yn teimlo nad yw'n mynd yn ddigon pell.
"Yn gynyddol rwy'n clywed am bobl sydd heb gamblo am sbel ond wedi ailddechrau am eu bod yn cael eu temtio gan negeseuon testun, e-byst, neu hysbysebion gamblo ar Facebook," meddai.
"Dydy rhai ddim yn ddigon cryf i'w gwrthsefyll."
Roedd Nick Phillips â phroblem gamblo am 20 mlynedd, ond dyw heb gamblo o gwbl "ers rhyw ddwy flynedd bellach".
Mae'n aelod o Gamblers Anonymous Abertawe a'r mudiad Gamvisory, ac yn dweud fod yna "gynnydd anferthol mewn betio ar-lein" ymhlith pobl mae'n nabod sydd â phroblem hapchwarae.
"Yn absenoldeb y farchnad betio ar chwaraeon mae pobl â phroblemau gamblo'n symud ar-lein i fathau eraill i fetio fel gemau slot a roulette casino," meddai.
Dywed Mr Phillips fod iechyd meddwl gwael yn gallu cynyddu'r cymhelliant i ailddechrau hapchwarae.
Er bod modd cadw cysylltiad â grwpiau fel Gamblers Anonymous trwy Zoom, mae'n dweud fod nifer yn poeni ble gallan nhw droi am gefnogaeth tra'n gaeth i'w cartrefi.
Wrth roi tystiolaeth i un o bwyllgorau San Steffan ddydd Llun, dywedodd prif weithredwr y Comisiwn Gamblo, Neil McArthur eu bod "wedi cymryd sawl cam pan ddaeth mesurau ymbellhau cymdeithasol i rym".
"Yn syth fe wnaethon ni rybuddio cwmnïau i beidio manteisio ar yr argyfwng presennol. Pan fo angen rydym wedi cymryd camau gorfodaeth," meddai.
Ychwanegodd fod y comisiwn yn monitro effaith aros adref ar gamblo trwy ymchwil YouGov, sy'n awgrymu fod:
20% o'r bobl sydd heb hapchwarae yn ddiweddar yn amau'r posibilrwydd o ailddechrau o fewn yr wythnosau nesaf;
15% o'r rhai sydd wedi gamblo yn ddiweddar yn treulio mwy o amser yn hapchwarae - canran sy'n codi i 60% o blith y bobl sy'n gamblo'n gyson;
Merched ifanc yn treulio mwy o amser yn hapchwarae, ond mae dynion ifanc yn treulio mwy o amser ac arian yn gamblo.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2019