Covid-19: Amharu ar ymgyrch godi arian clwb pêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pel-droed Llanuwchllyn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y clwb ei sefydlu yn 1957

Mae Clwb Pêl-droed Llanuwchllyn wedi lansio apêl ar y we i godi £10,000 i gwblhau gwelliannau angenrheidiol i faes chwarae'r clwb.

Er mwyn cyrraedd gofynion Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae'n rhaid i'r clwb wario £50,000 os yw am barhau i chwarae ar ei lefel bresennol yn Uwch Gynghrair Ardal Wrecsam.

Mae'r uwchraddio'n cynnwys codi eisteddle i 100 o bobl a stafelloedd newid newydd.

Mae nhw newydd ddechrau nifer o'r gwelliannau, ac mae'r peiriannau trwm yn brysur yn gweithio ar y cae ar hyn o bryd, ond oherwydd Covid-19 mae'r clwb wedi gorfod canslo nifer o ddigwyddiadau codi arian.

Nawr y gobaith ydi codi'r £10,000 sydd ei angen drwy dudalen GoFundMe.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Iwan Arthur Jones ei bod hi'n gyfnod pryderus i bawb yn y clwb

"Clwb cymunedol Cymraeg ei iaith ydi o erioed," meddai Iwan Arthur Jones, aelod o bwyllgor rheoli'r clwb.

"Mae hynny'n bwysig iawn i'r ardal ac mae o'n gyrchfan ar ddydd Sadwrn i lawer o bobl yn y gymuned.

"'De ni'n teimlo bod hi'n bwysig iawn i'r clwb barhau mewn rhyw fodd os ydy o'n bosib, achos mae'r amodau newydd 'ma wedi dod allan gan y Gymdeithas Bêl-droed, ac mae o jyst yn gost ychwanegol.

"Mae'n gyfnod eitha' anodd ac yn bryderus i bawb. 'De ni'n gobeithio allwn ni hel y pres 'ma er gwaetha'r pryder, ac mae ewyllys da pobl wedi bod yn anhygoel hyd yn hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dei Charles Jones fod digwyddiadau codi arian wedi gorfod cael eu canslo

Dei Charles Jones ydy cadeirydd y clwb a dywedodd bod gorfod gohirio digwyddiadau codi arian wedi bod yn ergyd.

"Mae o wedi effeithio'n ofnadwy arnon ni," esboniodd.

"Roeddan ni ar y lap ola' fel petai i godi arian i orffen y gwaith, ond mae coronafeirws wedi dod ymlaen, 'de ni wedi colli nosweithiau fase wedi dod ag arian mawr er enghraifft noson efo Candelas a Cledrau yn y Plas Coch, Bala o gwmpas y Pasg.

"Mae honno 'di cholli ac mae hynna'n gadael ni'n fyr."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Osian Williams yn mynd i fod yn perfformio yn un o'r nosweithiau codi arian gyda'i fand Candelas

Osian Williams sy'n trefnu'r ymgyrch codi arian ar y we.

"Mae 'na swm mawr angen cael ei godi wrth gwrs ac roeddan ni'n meddwl base fo'n syniad da cychwyn y dudalen GoFundMe," meddai.

"Mae 'na griw lleol ohonom ni ar y pwyllgor ac mae o fath ag elusen mewn ffordd - tudalen ar y we a 'dan ni'n gobeithio codi £10,000 ar hwnnw.

"Chware teg mae pawb yn lleol wedi bod yn cyfrannu'n slo bach.

"Mae'n dechre tyfu rŵan ond se rhywun yn mynd ar dudalen Facebook neu Twitter Clwb Pel-droed Llanuwchllyn, mi fase jyst punt - hyd yn oed unrhyw gyfraniad - yn help mawr i ni."

Os daw'r arian i law y gobaith ydy y bydd y gwaith ar y gwelliannau wedi eu gorffen erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf.