Pryder am ddiffyg cyfarpar PPE i weithwyr cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd
PPEFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 'na bryderon am ddiffyg cyfarpar diogelwch PPE i weithwyr cymdeithasol ar y rheng flaen, ar gyfnod pan fo'r galw am eu cymorth ar gynnydd. Dyna mae'r corff sy'n cynrychioli gweithwyr cymdeithasol yn ei ddweud.

Doedd y Gymdeithas Brydeinig Dros Weithwyr Cymdeithasol ddim wedi cael eu cynnwys yn y gwaith o baratoi ar gyfer y pandemig, medden nhw. Maen nhw'n dweud nad oedd unrhyw gyfarpar PPE ar gael i weithwyr cymdeithasol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ar ddechrau'r cyfnod o gyfyngiadau cymdeithasol.

Er bod y gymdeithas yn dweud bod y sefyllfa wedi gwella rhywfaint, maen nhw'n dweud bod diogelwch yn amrywio o ardal i ardal o fewn y DU.

Yn ôl y gymdeithas mae diffyg PPE, diffyg cynllunio, lefelau staffio is oherwydd salwch a rheolau ymbellhau'r llywodraeth i gyd yn cael effaith ar sut y mae'r proffesiwn yn gweithio ar hyn o bryd.

Dyletswyddau statudol

Dywedodd Allison Hulmes, cyfarwyddwr cenedlaethol y Gymdeithas Brydeinig Dros Weithwyr Cymdeithasol yng Nghymru, fod y "penderfyniad i beidio cael cyswllt wyneb yn wyneb wedi ei wneud yn dilyn asesiad risg manwl".

"Rhan o'r asesiad risg yna fydd os oes PPE neu beidio - ddylai gweithwyr cymdeithasol ddim methu allan ar ymweliadau cyswllt wyneb yn wyneb o achos diffyg PPE," meddai.

"Mae gennym bryderon anferth wrth i ni symud allan o'r pandemig.

"Roedd anghyfartaledd anferth cyn y pandemig - rydym wedi cael 10 mlynedd o lymder gyda phlant a theuluoedd bregus yn cael eu heffeithio fwyaf.

"Fe fydd y pandemig hwn yn tanlinellu'r anghyfartaledd yma'n fwy fyth, ac mae hyn cyn i ni ddechrau pwyso a mesur a deall effaith y cyfnod o gyfyngiadau cymdeithasol am yr holl wythnosau hyn."

Ychwanegodd: "Rydym yn pryderu fod gweithwyr cymdeithasol yn ei chael yn anodd i fynd i mewn i gartrefi, a beth fydd effaith posib hyn yn y dyfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae diogelu plant ag oedolion bregus yn ein cymunedau'n parhau i fod yn flaenoriaeth ac mae timau gwasanaethau cymdeithasol wedi parhau i gadw mewn cyswllt agos gyda'r holl bobl ifanc a theuluoedd maen nhw'n ei gefnogi.

"Ble mae gweithwyr cymdeithasol yn gweithio mewn lleoliadau lle nad oes modd cynnal ymbellhau cymdeithasol, dylai asesiad risg ar ddefnydd PPE gael ei gynnal."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn gweithio rownd y cloc i sicrhau fod PPE yn cael ei ddarparu mor sydyn â phosib i'r rhai ar y llinell flaen yn ystod y pandemig byd-eang hwn am gymaint o amser ag sydd rhaid.

"Rydym wedi darparu dros 1bn o eitemau ers dechrau hyn ac mae llinell gymorth GIG 24 awr ar gael lle gall staff y GIG a gweithwyr gofal alw i adrodd am ddiffyg cyflenwadau."

Galwadau i elusen

Yn y cyfamser mae elusen diogelu plant yr NSPCC wedi gweld cynnydd o bron i 20% yn nifer y galwadau ers dechrau'r cyfyngiadau cymdeithasol gan oedolion yn y DU sy'n pryderu am gamdriniaeth corfforol neu emosiynol yn erbyn plant.

Mae ffigyrau sydd wedi dod i law y BBC hefyd yn dangos cynnydd o 50% yn nifer y galwadau i'r elusen gan oedolion oedd yn pryderu'n benodol am gamdriniaeth emosiynol yn erbyn plant, a hynny yn y mis cyntaf ers i'r llywodraeth ddod a'r cyfyngiadau cymdeithasol i rym.

Gallai'r galwadau hyn fod wedi bod gan gymdogion, teulu estynedig neu weithwyr yn cludo nwyddau i gartrefi.

Dywedodd yr elusen y gall y cyfnod o gyfyngiadau cymdeithasol olygu fod camdriniaeth o bob math yn erbyn plant yn dwysau wrth i ysgolion a gofodau cymdeithasol barhau ar gau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Un sydd yn ymwybodol iawn o effaith camdriniaeth corfforol ag emosiynol yw Bethan. Yn dilyn damwain car ddiweddar, fe gafodd ddiagnosis o PTSD, ac fe ddaeth hyn â phrofiadau trawmatig ei phlentyndod yn ôl yn fyw iddi.

Dywedodd Bethan ei bod wedi dioddef camdriniaeth yn ei chartref gan ei thad ers pan oedd yn chwech oed.

"Rwy'n credu fod yr ochr emosiynol yn llawer gwaeth na'r ochr gorfforol ac fe wnaeth barhau am nifer o flynyddoedd," meddai.

"Gallai fod yn unrhyw beth o slap i gael fy ngwthio i lawr y grisiau - roedd wastad am sicrhau mai fe oedd y person mwyaf yn y darlun, ac mai fe oedd gyda'r cryfder a'r un cryf allan o'r ddau ohono ni.

"Roedd yn ddigon clyfar i sicrhau nad oedd y marciau byth yn dangos... felly os bydden i'n mynd allan yn gyhoeddus fyddech chi ddim yn gweld y cleisiau neu'r crafiadau na'r anaf."

Pryderon

Wrth ystyried effaith y gamdriniaeth yr oedd wedi ei ddioddef, mae gan Bethan bryderon gwirioneddol am y rhai hynny sydd yn dioddef profiadau tebyg yn ystod y cyfnod hwn, heb fan diogel i ffoi.

"Mae'n siŵr o fod yn erchyll... mae pob person arall yn credu fod eu cartrefi yn leoliadau diogel, a beth ddylai cartref fod," meddai.

"Ond mae unrhyw un sy'n profi'r math yma o drais - rydych chi wastad ar binnau a does byth gyfle i chi ymlacio - rydych chi wastad yn aros am yr ymosodiad nesaf, fe allai'r peth lleiaf fod yn sylw slei am eich edrychiad neu unrhyw beth.

"Mae bod yn sownd tu fewn ar adeg fel hyn, rhaid bod e'n erchyll am mae'n fy nychryn i hyd yn oed i feddwl am fod yn ôl yn y sefyllfa yna a bod yn gaeth yn eich cartref am gyfnod mor hir."

Dywedodd prif weithredwr elusen yr NSPCC, Peter Wanless y gall y perygl i blant ddwysáu wrth i'r cyfnod o gyfyngiadau cymdeithasol gael ei ehangu ymhellach.

Ychwanegodd y gall plant sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth fod yn anweledig i'r byd tu allan wrth i ysgolion fod ar gau.

"Mae nifer yr achosion sy'n cael eu cyfeirio at yr heddlu ag awdurdodau lleol wedi gostwng," meddai.

"Ond i ni, mae'r adroddiadau yr ydym yn ei dderbyn am gamdriniaeth emosiynol yn enwedig ar gynnydd, felly mae hyn yn bryderus.

"Un o'r rhesymau rwy'n credu yw fod mwy o blant o'r golwg o lygaid arbenigwyr a'r bobl broffesiynol sydd yn fwyaf tebygol o weld ag adnabod pryderon mewn plant, yn enwedig pan maen nhw yn yr ysgol.

"Ac i'r plant ifanc hynny sy'n darganfod eu hunain yn y sefyllfaoedd peryglus ac anodd hyn, does dim dianc ac mae'r gamdriniaeth yn ddi-ddiwedd.

"Felly nid yr ysgol yw llinell flaen amddiffyn plant bellach - y cartref a'r gymuned yw'r llinell flaen ac rwy'n credu fod gennym oll gyfrifoldeb i edrych allan am blant."