Rhagweld pegwn Covid-19 yn y gogledd 'ddiwedd Mai'

  • Cyhoeddwyd
Canolfan
Disgrifiad o’r llun,

Y ganolfan brofi Covid-19 newydd yn Llandudno

Mae dogfennau gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn awgrymu y bydd nifer yr achosion o Covid-19 ar ei uchaf yn y gogledd ar ddiwedd mis Mai.

Yn ôl y bwrdd iechyd fe allai hyd at 3,000 o gleifion coronafeirws fod angen triniaeth mewn ysbytai yn yr ardal erbyn hynny.

Wrth i ganolfan brofi Covid-19 newydd agor yn Llandudno ddydd Mercher, dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus y bwrdd iechyd, Teresa Owen, eu bod yn gorfod blaengynllunio ar gyfer pob datblygiad posib.

"Mae'n anodd gwybod pryd yn union fydd y pegwn a dwi'n amau pan fydd pethau'n newid y gwelwn ni begwn bychan bob hyn a hyn," meddai.

"Ond wrth gwrs ar hyn o bryd, trio dychmygu ydan ni be' fydd hynny, ac mae'n rhaid i benderfyniadau rŵan gael eu gwneud am y dyfodol, sut 'dan ni'n symud ymlaen, helpu'r economi a gwneud pethau'n fwy normal i ni gyd."

Bydd gweithwyr allweddol cymwys yn profi eu hunain ar safle'r ganolfan newydd yn Llandudno, gan dderbyn offer i wneud hynny wrth gyrraedd y ganolfan a'u gosod mewn blwch ar y ffordd allan. Yn ôl Teresa Owen fe fydd y ganolfan yn gwneud "gwahaniaeth mawr".

"Erbyn hyn, mae'r galw wedi mynd yn fwy, mae angen profi mwy ac wrth gwrs 'dan ni angen paratoi at y dyfodol pan fydd y cyfyngiadau wedi codi," meddai.

Ehangu darpariaeth

Dywedodd hefyd ei bod hi'n credu y bydd mwy o bobl yn gymwys am brofion yn y dyfodol, er bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau i gynnig prawf i holl staff cartrefi gofal, fel sy'n digwydd yn Lloegr.

"Dwi'n siŵr y byddwn ni [yn ehangu'r cynnig], ond 'dan ni'n gweithio cam wrth gam efo Llywodraeth Cymru a'n partneriaid i wneud y gorau gallwn ni," meddai.

"Yn bendant ar hyn o bryd 'dan ni angen dilyn y canllawiau, profi'r staff sydd angen eu profi a hefyd 'dan ni yn profi yn y cartrefi gofal lle bo angen." Yn y cyfamser mae AC Plaid Cymru, Sian Gwenllian, yn rhybuddio na ddylai cyfyngiadau gael eu llacio os oes wythnosau i fynd nes i nifer yr achosion gyrraedd copa mewn rhannau o'r wlad.

"Mae hi'n ofnadwy o bwysig bod y trafod am godi cyfyngiadau ddim yn magu traed ar y pwynt yma," meddai.

"Mae angen i'r cyfyngiadau aros mewn lle, ac mi fyddwn i'n dweud bod angen i rai cyfyngiadau - cyfyngiadau ar bobl yn symud o gwmpas a dod mewn i'r ardal - mae angen eu cryfhau nhw er mwyn diogelu staff rheng flaen wrth eu gwaith a diogelu pobl yr ardal yma."