'Angen deall effaith Covid-19 yn rhyngwladol'
- Cyhoeddwyd
Mae prif swyddog meddygol Cymru wedi galw am fwy o ddealltwriaeth am sut mae'r coronafeirws wedi effeithio ar wledydd eraill.
Yn ôl Dr Frank Atherton byddai ffordd mwy systematig o ddadansoddi lledaeniad yr haint o gymorth wrth daclo'r salwch yng Nghymru.
Daw hyn wrth i brif ymgynghorydd gwyddonol Cymru, Dr Rob Orford, ddweud na fyddai Cymru wedi delio'n wahanol a'r haint hyd yn oed tasai mwy o brofion wedi cael eu cynnal.
Gwella cyswllt Cymru a WHO
"Dwi'n teimlo ein bod ni angen cael ffordd wyddonol well o ddeall yn union beth sy'n mynd ymlaen yn rhyngwladol," meddai Dr Atherton, wrth siarad mewn cyfarfod rhithwir o bwyllgor iechyd y Cynulliad.
"Dwi wedi codi'r mater gyda phrif swyddogion meddygol a Iechyd Cyhoeddus Cymru ac maen nhw yn edrych ar ffyrdd y gallwn wneud hyn," meddai.
"Mae gennym rai cysylltiadau gyda WHO ond hoffwn weld dull cryfach, mwy systematig o ddeall be sy'n digwydd ar draws y byd."
Perthynas ddwy ffordd
Dywedodd Dr Atherton ei fod wedi cael trafodaethau gyda swyddogion meddygol yn Ne Corea, Yr Almaen a Sweden i asesu eu hymateb i'r pandemig a gweld sut y gallwn ddysgu o'u profiadau.
"Mae'r trafodaethau hynny yn amhrisiadwy achos mae gan bob gwlad berspectif gwahanol ac ymateb sydd fymryn yn wahanol.
"Mae perthynas ddwyochrog fel hyn yn ddefnyddiol iawn, ond mae angen ymdriniaeth mwy systematig er mwyn deall beth sy'n digwydd mewn gwledydd eraill."
Dywedodd Dr Atherton ei fod yn rhannu enghreifftiau o Gymru gyda chyd-swyddogion rhyngwladol.
"Dyna pam ry'n ni'n cael y sgyrsiau yma, er mwyn dangos beth sy'n digwydd yma yng Nghymru fel y gallwn siarad am y materion hyn a hefyd am y llwyddiannau ry'n ni wedi gael. Mae'n stryd ddwy-ffordd."
Effaith diffyg profion
Dywedodd prif ymgynghorydd gwyddonol Cymru, Dr Rob Orford, bod ymwahanu cymdeithasol a hunan ynysu wedi bod yn ddulliau effeithiol o atal ei ledaeniad. Ychwanegodd na fyddai cynnal mwy o brofion wedi gwneud llawer o wahaniaeth i'r ffordd y mae Cymru wedi rheoli'r haint.
Gwadodd fod y nifer isel o brofion yn golygu nad oedd y llywodraeth yn gallu dilyn lledaeniad y feirws.
"Rydyn ni'n defnyddio mesurau eraill hefyd, fel y nifer sy'n gorfod mynd i'r ysbyty, gwelyau unedau gofal dwys a galwadau ffôn i 111.
Monitro ymlediad yr haint
"Rydyn ni wedi cyflwyno app Zoe sy'n galluogi pobl i uwchlwytho eu symptomau. Mae dros 100,000 o bobl yng Nghymru yn defnyddio'r app."
Roedd gwybodaeth o'r app yn helpu i lywio'r cyngor gwyddonol i'r llywodraeth, meddai Dr Orford.
"Mae peth o'r naratif yn y cyfryngau yn awgrymu nad oes gennym systemau monitro mewn lle, ond mae gennym systemau o'r fath."
Ceidwadwyr wedi eu cythruddo
Yn y cyfamser mae 12 o Aelodau Seneddol Ceidwadol o Gymru wedi datgan eu "pryder" am yr "anghyfartaledd" mewn profion Covid-19 yng Nghymru a Lloegr, mewn llythyr at brif weinidog Cymru Mark Drakeford.
Nid yw Cymru wedi dilyn trywydd Lloegr drwy brofi pawb dros 65 oed, staff a phreswylwyr cartrefi gofal a phobl sy'n gorfod gadael eu cartrefi i weithio.
Yn ôl yr aelodau, bydd y gwahaniaethau'n golygu y bydd pobl "yn dal haint Covid yn ddiangen".
Dywedodd y llythyr fod y gwahaniaeth yn y drefn o brofi "yn hynod o siomedig ac fe ddaw yn dilyn methiant i anfon llythyrau ynysu at y bregus, methiant y mwyaf bregus i sicrhau blaenoriaeth cymorth siopa mewn archfarchnadoedd, camgymeriadau cofnodi marwolaethau Covid, methiant i weithredu cynllun gwirfoddolwyr GoodSAM, gwrthod cymorth gan dasglu hediadau, ac oedi wrth weithredu nifer o gynlluniau llywodraeth y DU".
Galwodd yr ASau ar y prif weinidog i ddatblygu safleoedd profi ychwanegol ar hyd Cymru "ac i chwilio am y defnydd o labordai eraill yn y DU".
Wrth ymateb i'r llythyr, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y polisi yng Nghymru wedi ei seilio ar dystiolaeth wyddonol.
Dywedodd y llywodraeth bod llythyr yr ASau yn cynnwys "camgymeriadau ffeithiol" a "chamliwiad".
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020