Gohirio cystadleuaeth griced The Hundred am flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Timau criced The HundredFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r gystadleuaeth griced newydd The Hundred, fydd yn cynnwys Tân Cymreig ymysg yr wyth tîm, wedi ei ohirio tan 2021 oherwydd argyfwng coronafeirws.

Yr oedd y gystadleuaeth 100 pêl, gyda thwrnament ar wahân i dimau dynion a merched, fod i ddechrau ar 17 Gorffennaf gyda'r diweddglo ar 15 Awst.

Ond fe ddaeth gyfarfod o Fwrdd Criced Lloegr a Chymru i'r casgliad na fyddai'n bosib cynnal y gystadleuaeth eleni.

Mae criced yng Nhymru a Lloegr wedi'i atal tan o leiaf 1 Gorffennaf gyda'r awdurdodau yn dweud mai'r flaenoriaeth pe byddai'r tymor yn dechrau fydd gemau rhyngwladol a gemau dosbarth cyntaf ac undydd.

Y tebygrwydd yw y bydd angen cynnal y mwyafrif o gemau tu ôl i drysau gaeddig, yn groes i un o amcanion cystadleuaeth The Hundred sydd â'r nod o ddenu cynulleidfa newydd i'r gêm.

Gerddi Sophia yng Nghaerdydd fydd lleoliad tîm dynion Tân Cymreig - gyda Morgannwg, Sir Gaerlow a Gwlad yr Haf yn cyd weithio

Roedd enwau mawr megis Steve Smith a Mitchell Starc o Awstralia, Jonny Bairstow o Loegr a chwaraewr presennol Morgannwg Colin Ingram eisoes wedi ei cadarnhau ar gyfer tîm y dynion.