Dim Gŵyl Gomedi Machynlleth yn 'golled yn ariannol'

  • Cyhoeddwyd
Machynlleth
Disgrifiad o’r llun,

Pe nai bai am coronafeirws, byddai strydoedd Machynlleth yn llawn ymwelwyr y penwythnos hwn

Dan amgylchiadau arferol fe fyddai Machynlleth yn fwrlwm o brysurdeb y penwythnos hwn.

Bob blwyddyn ers 2010, ar benwythnos cyntaf mis Mai, mae gŵyl gomedi wedi'i chynnal yn y dref.

Ond eleni mae hi wedi'i chanslo, un o filoedd ar filoedd o ddigwyddiadau celfyddydol nad oes modd eu cynnal oherwydd y mesurau i geisio atal lledaeniad Covid-19.

Cyhoeddodd y trefnwyr fis diwethaf bod rhaid canslo "gyda thristwch enfawr" a'u bod yn ymwybodol o'r siom fawr fyddai hyn yn achosi, ond bod y penderfyniad yn anochel.

Dywedodd neges ar wefan yr ŵyl: "Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau i dref Machynlleth, ein cynulleidfa, artistiaid a chriw o ddifrif, ac felly rydym yn derbyn y byddai dod ag 8,000 o bobl i'r dref ar hyn o bryd yn peri risg ddiangen i iechyd y cyhoedd."

Ffynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tudur Owen yn un o'r perfformwyr sydd wedi bod yn cymryd rhan yn yr ŵyl ers ei dyddiau cynnar

Dros y degawd diwethaf mae'r ŵyl wedi datblygu i fod yn un o brif wyliau comedi y Deyrnas Unedig, gan ddenu'r enwau mawr i'r dref fach yn y canolbarth.

Bydd colled ar ei hôl eleni - nid dim ond yn nhawelwch prifddinas hynafol Cymru a diffyg sŵn chwerthin - ond hefyd o ran yr hwb mae'r ŵyl yn rhoi i fusnesau'r dref.

Dywedodd Jim Honeybill, aelod o Gyngor Tref Machynlleth: "Mae pobl yn dod yma o Lundain, o Newcastle, o bobman - mae'r ŵyl wedi rhoi enw Machynlleth ar y map ar draws Prydain.

"Dwi'n poeni bob blwyddyn a fydd digon o beiriannau arian yn y dref, oherwydd mae miloedd yn fwy o bobl yma ac maen nhw'n gwagio'r peiriannau sy'n dangos faint maen nhw'n gwario.

"Mae'n wych i'r dref, ond roedd rhaid canslo eleni - dim dewis."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jim Honeybill fod yr ŵyl "wedi rhoi enw Machynlleth ar y map ar draws Prydain"

Dywedodd Charles Dark, un o berchnogion Gwesty'r Wynnstay yng nghanol y dref: "Mae'n debyg mai dyma benwythnos mwya'r flwyddyn i ni.

"Ry'n ni'n cael llawer o'r enwau mawr yn aros gyda ni ac wrth iddyn nhw adael ar ddiwedd yr ŵyl maen nhw'n bwcio ystafell ar gyfer y flwyddyn nesaf.

"Mae Machynlleth yn dref fach sy'n gor-gyflawni mewn ffordd - nid yn unig mae'n cynnal yr ŵyl gomedi, ond yma hefyd mae gŵyl gerddoriaeth glasurol a jazz yn y Tabernacl ym mis Awst, ras beics y Dyfi Enduro a gŵyl werin newydd.

"Mae Machynlleth wedi cael ei galw'n brifddinas amgen Cymru - rwy'n credu ei bod bellach yn brifddinas y gwyliau amgen."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ŵyl gomedi yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref ym Mhowys

Mae perfformiadau'n cael eu cynnal ar draws y dref mewn lleoliadau mawr a bach - i gyd o fewn munudau o gerdded i'w gilydd.

Mae Caffi Alys wedi bod yn cynnal sioeau ers blynyddoedd, gan gynnwys perfformiadau gan gomediwyr Cymraeg fel Tudur Owen, Elis James a Daniel Glyn.

Dywedodd Gail Jenkins, perchennog y caffi: "Byddwn ni fel tref yn gweld eisiau'r ŵyl gomedi eleni.

"Mae 'na awyrgylch arbennig iawn bob penwythnos Gŵyl Banc Mai wrth i filoedd o ymwelwyr ddod i'r dref.

"Yn ogystal â'r bwrlwm, bydd busnesau bach Machynlleth yn gweld y golled yn ariannol.

"Mae'r penwythnos yma wastad yn brysur, boed haul neu law, ac mae'n ddechrau llwyddiannus i dymor gwyliau'r haf - yn boost i'r cyfri' banc."

Yn absenoldeb yr ŵyl ei hun bydd Radio Wales yn darlledu cyfres o raglenni arbennig y penwythnos hwn. 

Fe fydd rhaglen ddogfen yn edrych yn ôl ar 10 mlynedd gynta'r ŵyl, perfformiadau gan rai o'r comediwyr Cymreig sydd wedi ymddangos ym Machynlleth a chomedi gan rai o sêr yr ŵyl yn fyw o'u cartrefi.