Targedau ailgylchu cynghorau yn 'heriol' ar hyn o bryd

  • Cyhoeddwyd
bins

Mae'r rhan fwyaf o gynghorau sir Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn wynebu her i gyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws.

Bu cynnydd enfawr mewn gwastraff cartref tra bod pobl yn tacluso tai a gerddi yn ystod y cyfyngiadau ar symud, ac mae canolfannau ailgylchu wedi cau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, na fyddai deddfwriaeth sydd ei hangen i addasu targedau yn bosibl.

Ond dywedodd y byddai'r heriau presennol yn cael eu cydnabod lle'r oedd cynghorau'n cael trafferth.

'Roedd rhaid newid pethau'

Yng Nghaerdydd, mae'r cyngor wedi dechrau llosgi deunydd fyddai'n cael ei ailgylchu fel arall.

Dywedodd y Cynghorydd Owen Llywelyn Jones, sydd hefyd yn aelod o bwyllgor craffu amgylcheddol y cyngor, wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru bod "sawl rheswm dros wneud hyn".

"Fe gollodd y Cyngor 25% o'i gweithwyr ar ddechrau'r argyfwng coronafeirws oedd yn ei gwneud hi yn anodd," meddai.

"Yng Nghaerdydd mae'r ailgylchu yn cael ei wahanu gyda llaw felly roedd hi'n eithaf anodd eu cadw nhw'n ddiogel am eu bod nhw'n defnyddio eu dwylo i ddidoli'r ailgylchu, felly roedd yn rhaid newid pethau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymru ydy'r unig wlad yn y DU i gyrraedd a phasio'r targedau ailgylchu Ewropeaidd

"Ry'n ni'n llosgi gwastraff mewn cyfleuster adfer ynni ym Mae Caerdydd, mae'n troi yn ynni. Mae'r safle chwarter milltir o Senedd Caerdydd a fydden ni fyth yn dyfalu bod y safle yn llosgi.

"Mae'r cyfleuster wedi ei greu er mwyn bod mor ddiogel i'r amgylchedd â phosib.

"Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hapus ein bod yn adfer ynni ac mae'n mynd mewn i system sy'n cynhyrchu trydan a chyn lleied â phosib o CO2."Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn y cyfnod presennol yn mynd i fod yn fwy llac o ran y targedau am eu bod nhw yn ymwybodol o'r sialensiau i bawb.

"Cyn gynted â bod Caerdydd yn gwybod bod y staff yn ddiogel fe allwn ni newid yn ôl i'r ffordd yr oedden ni yn ailgylchu rhyw fis yn ôl."

Casglu 'fel tase hi'n Ddolig'

Mae disgwyl i gynghorau yng Nghymru daro targed ailgylchu o 64% ar gyfer 2019-2020 a 70% erbyn 2024-2025, neu wynebu dirwyon o £200 y dunnell.

Y nod yw i Gymru gynhyrchu dim gwastraff erbyn 2d50.

Mae Cyngor Powys wedi gweld cynnydd o 21% ym maint y gwastraff a gasglwyd o ymyl y ffordd, wrth i bobl aros adref, a dywedodd y byddai'r targedau "yn anochel yn fwy heriol".

Dywedodd Cyngor Torfaen y bydd atal casgliadau gwastraff gardd a chau canolfannau ailgylchu gwastraff cartref "yn effeithio ar ein perfformiad ailgylchu am y flwyddyn".

Yn Wrecsam, mae'r cyngor wedi cymharu'r cynnydd mewn gwastraff wrth ymyl y ffordd â'r cyfanswm sy'n cael ei weld fel arfer adeg y Nadolig.