Pandemig yn 'heriol' i glybiau Uwch Gynghrair Cymru

  • Cyhoeddwyd
Y Seintiau Newydd yn datlu ennill y teitl yn 2019Ffynhonnell y llun, The New Saints
Disgrifiad o’r llun,

Y Seintiau Newydd yw pencampwyr presennol Uwchgynghrair Cymru

Mae clybiau Uwch Gynghrair Cymru wedi disgrifio'r argyfwng coronafeirws fel un arbennig o heriol yn ariannol.

Does dim gemau wedi eu chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru ers dechrau mis Mawrth ac felly dim incwm i'r clybiau.

Mae rhaglen Newyddion S4C wedi cysylltu gyda phob un o'r 12 clwb i'w holi ynglŷn â'u hincwm, eu cynlluniau cynnal swyddi a'u hasesiad o'u sefyllfa ar gyfer y tymor nesaf.

Nododd pob un clwb na chawson nhw unrhyw incwm ers dechrau Mawrth.

Ansicrwydd

Maen nhw'n ddibynnol naill ai yn llwyr neu yn rhannol ar arian gatiau ac arian ar ddiwrnod gêm, boed yn y bar neu logi ystafelloedd.

"Fel clwb sydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr mi ryda ni'n dibynnu'n hollol ar arian giât a cefnogwyr yn dod i'n cefnogi ni a hefyd arian noddwyr," meddai Paul Evans o CPD Tref Caernarfon.

"Da ni ddim wedi chwarae gêm ers 6 Mawrth felly fedrwch chi feddwl bod hi'n reit anodd gyda dim incwm yn dod i mewn ers hynny."

O ran cynllun furlough Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dywedodd wyth clwb eu bod nhw naill ai wedi gwneud cais neu yn ystyried gwneud cais am gymorth.

Ffynhonnell y llun, NCM Media
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Cei Conna yn dathlu wedi eu buddugoliaeth yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG ym mis Chwefror.

Roedd rhai clybiau o'r farn nad oedden nhw yn gymwys, gyda Met Caerdydd yn nodi nad oedden nhw yn talu chwaraewyr.

O ran eu sylwadau ynglŷn â'r dyfodol, nododd nifer o'r clybiau eu bod yn poeni am noddwyr a diffyg arian, ac eraill yn poeni a fydd noddwyr yn gallu parhau i'w cefnogi.

Trefnu cytundebau newydd oedd y cur pen arall, gyda chytundebau nifer o chwaraewyr yn dod i ben ym mis Mai.

Arweiniad

Roedd rhai yn disgwyl arweiniad gan Gymdeithas Bêl-Droed Cymru, sydd wedi gwahardd holl weithgareddau tan o leiaf 15 Mai.

Mae'r Gymdeithas wedi datgan ei bod yn awyddus i gwblhau tymor Uwch Gynghrair Cymru, gyda Cei Conna ar y brig cyn i'r tymor ddod i ben mor ddisymwth ar ddechrau'r pandemig.

Mae corff llywodraethol pêl-droed yn Ewrop, Uefa, eisiau i wledydd ddweud erbyn 25 Mai oes ydynt yn bwriadu cwblhau eu tymhorau.