Galw am ryddhau casgliadau ymarferiad pandemig

  • Cyhoeddwyd
Adam Price

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau casgliadau ymarferiad ar effaith posib pandemig ffliw.

Cafodd Ymarferiad Cygnus ei gynnal dros dri diwrnod yn 2016, ac o ganlyniad fe gafwyd nifer o argymhellion, gan gynnwys rhai am gyfarpar diogelwch PPE.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi cymryd rhan yn yr ymarferiad, gan ychwanegu fod adolygiad o baratoadau ar draws y DU wedi bod o ganlyniad i Ymarferiad Cygnus.

Dyw Llywodraeth y DU heb gyhoeddi casgliadau'r ymarferiad.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod pobl angen gwybod pa gamau "gymerodd Llywodraeth Cymru i gynllunio a pharatoi ein Gwasanaeth Iechyd yn well ar gyfer y pandemig anochel" yn dilyn yr ymarferiad.

Ym mis Ebrill fe alwodd Ysgrifennydd Iechyd yr wrthblaid yn San Steffan- yr aelod seneddol Llafur Jonathan Ashworth - ar Lywodraeth y DU i ryddhau'r wybodaeth.

Dywedodd Mr Price fod " y cyhoedd yn haeddu ac angen gwybod beth ddigwyddodd i'r prawf hwn fel y gallwn ddysgu gwersi i'n cynorthwyo nawr."

'O ddiddordeb cyhoeddus'

Ychwanegodd: "Nid yw hyn ond o ddiddordeb i'r cyhoedd. Mae o ddiddordeb cyhoeddus i wybod pa gamau gymerodd Llywodraeth Cymru o ran PPE, isadeiledd profi, cyfarpar hanfodol a pharatoadau cyffredinol mewn pandemig byd-eang."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Roeddem ni a chyrff cyhoeddus eraill yn rhan o Ymarferiad Cygnus, ac yn dilyn hyn fe wnaeth Llywodraeth y DU baratoi adolygiad o'n paratoadau ar gyfer pandemig.

"Mae rhan o'r gwaith adolygu wedi bwydo i mewn i'n hymateb i'r pandemig yma, fel ein deddfwriaeth frys."

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws