Ateb y Galw: Y cerddor a'r bardd Beth Celyn

  • Cyhoeddwyd
Beth CelynFfynhonnell y llun, Beth Celyn

Y gantores-gyfansoddwraig a'r bardd Beth Celyn sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Bethan Rhiannon yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae gen i lot o atgofion tameidiog ond dim syniad pa un ddaeth yn gyntaf!

Dwi'n cofio chwarae ar draeth Porth Oer ym Mhen Llŷn pan o'n i'n hogan fach efo dwy ferch o Ffrainc oedd yn digwydd bod yno. O'n i efo Nain a Taid Pwllheli a'r teulu. O'dd y merched a finnau'n parablu'n brysur wrth adeiladu castell tywod er nad oedden ni'n dallt ein gilydd o gwbl. Dwi'n cofio synnau'r Ffrangeg a dwi'n cofio teimlo'n hapus.

Fel o'ddan nhw'n gadael 'nath Mam ddeud wrtha i i ddeud au revoir wrthyn nhw. Nes i wirioni cymaint 'mod i 'di deud 'wbeth odden nhw'n dallt! Dwi'n dal i gael yr un wefr efo ieithoedd heddiw.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

O'dd Orlando Bloom yn enw o'n i'n 'sgwennu'n reit aml yn y profiles yne 'da chi'n dueddol o 'neud pan 'da chi'n ifanc. "Hoff liw, hoff fwyd, pwy ti'n ffansïo…" Y profiles yne.

Orlando BloomFfynhonnell y llun, Jon Kopaloff
Disgrifiad o’r llun,

Saethodd Orlando Bloom i'n sgriniau (ac i galonnau nifer) pan ymddangosodd yn ffilmiau The Lord of the Rings

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

O'n i'n arfer chwerthin lot pan o'n i'n blentyn a faswn i'n aml yn cael y gigyls a methu stopio. Unwaith nes i chwerthin cymaint yn nhŷ fy ffrind, Angharad, nes i mi dagu ar yr hufen iâ o'n i'n bwyta a 'nath o ddechrau llifo allan o fy nhrwyn! Mae'n siŵr o'n i'n tua wyth oed ar y pryd ac oddan ni'n eistedd wrth y bwrdd bwyd efo'r holl deulu.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Neithiwr wrth wylio Portrait of a Lady on Fire. Ffilm anhygoel! Dwi'n barod isio gwylio fo eto.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Aros i fyny'n hwyr y nos!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Lle bynnag dwi efo teulu, ffrindiau neu gwmni da. Pwyntiau ychwanegol os mae yna fôr gerllaw a golygfa dda o'r sêr gyda'r nos.

line

O archif Ateb y Galw:

line

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae yna gymaint o nosweithiau cofiadwy - amhosib dewis!

O ran perfformio'n ddiweddar, o'dd cael canu Cob Malltraeth efo Vrï yn ngŵyl Lowender Peran mis Tachwedd dwytha yn noson sbesial iawn. 'Nath fy housemate Catrin a finnau penderfynu funud olaf y basen ni'n mynd draw i Gernyw i gefnogi a 'nath yr hogie ofyn os o'n i isio canu. Dyna oedd y tro cyntaf i ni berfformio Cob efo'n gilydd yn fyw. Odd o'n drydannol.

Profiadau felly sy'n atgoffa fi cymaint dwi'n caru perfformio, yn enwedig pan mae'r gynulleidfa 'di mwynhau a ti'n cael y cyfle i siarad efo nhw wedyn. O'dd digwydd bod llond llaw o ffrindie yno 'fyd!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dwi am dwyllo a phone a friend. Mae Angharad (o'r stori hufen iâ) yn deud: creadigol, heriog a ffyddlon.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Labyrinth oedd fy hoff ffilm yn blentyn. 'Nath Dad hyd yn oed ffeindio'r sgript i mi ar y wê a phrintio fo gyd allan a dwi'n dal i gofio'r rhan fwyaf o'r geiriau!

O ran llyfrau, mae A Field Guide to Getting Lost gan Rebecca Solnit yn llyfr cofiadwy nes i fwynhau. O'n i'n digwydd bod ar Enlli pan o'n i'n darllen fo. Dim signal ffôn. Dim wê. Nefoedd.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Frida Kahlo. Fasen ni'n peintio, canu a'n yfed margaritas.

Frida KahloFfynhonnell y llun, Bettmann
Disgrifiad o’r llun,

Yr arlunydd o Mexico, Frida Kahlo, gyda un o'i hamryw hunan-bortreadau

Beth yw dy hoff gân?

Mae Golden Years gan David Bowie yn ffefryn. Cân dwi 'di joio ers fy mhlentyndod!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Salad rocet efo prosciutto, pomegranate a mymryn o parmesan fel cwrs cyntaf. Tatws mozzarella yn brif gwrs, sef mozzarella 'di meddalu dros datws newydd a thomatos efo lot (lot) o fasil. Yna créme brûlée yn bwdin.

Faswn i'n goleuo canhwyllau, setio mood lighting cynnes a'n rhoi cerddoriaeth gefndirol braf cyn dechrau serfio'r bwyd.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

O'n i'n arfer dawnsio - dyddiau trainio i fod yn triple threat! Un o fy mhrofiadau mwyaf nerve-racking erioed oedd gwneud fy arholiad intermediate ballet mewn coleg dawns ym Manceinion. Dwi allan o bractis braidd erbyn hyn, ond dwi'n dal i joio dawnsio o gwmpas y tŷ.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Faswn i'n fodlon fy mod taswn i'n cael y cyfle i ganu, chwarae'r piano a nofio'n y môr - a mwynhau'r sêr - yn enwedig taswn i'n medru rhannu'r diwrnod efo fy nheulu a ffrindie agos.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fasa cael bod yn FKA Twigs yn reit cŵl. Mae ei sesiwn fyw Maida Vale yn sdyning! Dwi wir yn edmygu ei gweledigaeth greadigol. Mae yna vulnerability sbesial iawn i'w chaneuon hi - ac ma' ganddi sgiliau anhygoel ar bolyn. Fasa hynne'n hwyl!

FKA Twigs
Disgrifiad o’r llun,

Mae Beth wrth ei bodd â sain y gantores FKA Twigs

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Dyfan Lewis

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw