Ateb y Galw: Y sgriptwraig comedi Siân Harries

  • Cyhoeddwyd
Siân Harries

Y sgriptwraig comedi Siân Harries sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar ôl iddi gael ei henwebu gan Elliw Gwawr yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mam-gu yn dangos Mam y tŷ o'n nhw'n neud lan a Mam yn mynd 'o ma' fe'n edrych yn lyfli' a fi'n dweud 'Erm, ma fe'n edrych yn horrible' achos mai building site o'dd e. Telling it like it is ers 1983.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Christopher Dean. Ma dal 'da fi thing am flowsen porffor.

Ffynhonnell y llun, Phil Cole
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Christopher Dean, a'i bartner Jane Torvill, lwyddiant yn ei flows borffor, gan ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd 1984

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Crasho pick-up tad ffrind fi, Elen, mewn i wal y beudy pryd o'n i'n 15. Nath y corn mynd off am ages a 'nath y da a'r defaid gyd mynd yn nyts. Beth sy'n hala fi 'werthin yw, er gwaetha'r holl sŵn a'r carnage tu fas, 'nath mam-gu Elen o'dd yn y stafell ffrynt, gysgu trwyddo fe gyd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Gwylio Sir David Attenborough mewn trafodaeth fyw ynglŷn â'r amgylchedd 'da Aelodau Seneddol. Ma' ganddo gymaint o urddas a gwybodaeth a pharch tuag at y byd - dyna'r fath o berson dyle fod yn arwain y Gorllewin, nid Boris Johnson a Trump.

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Digonedd. Dim mynd i'r gwely yw'r un gwaetha'. Fi fel plentyn noson cyn Dolig.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mynyddoedd y Preseli. Nhw yw'r Meryl Streep o fynyddoedd - dyw nhw ddim mor amlwg â rhai o'r mynyddoedd yn y Gogs ond y mwya' ti'n edrych arnyn nhw y mwya' mesmerising a stunning ma' nhw'n ymddangos a dyw nhw byth yn gadel ti lawr.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Un o'r nosweithiau gorau fi erioed 'di cal o'dd pryd enillodd Cymru 3-1 yn erbyn Gwlad Belg yn yr Euros. Achos ein bod ni 'di cal tocynnau munud ola', o'dd fi a Rhod [Gilbert, y comedïwr] yn ishte i ffwrdd o ffans Cymru ac yng nghanol yr holl bobl busnes rhyngwladol 'ma mewn trowsus gwyn a hetiau Panama o'dd ddim yn creu unrhyw sŵn - a 'na le o'n ni wedi meddwi'n gaib ac yn canu mewn tops Cymru.

Felly pryd o'dd e'n amlwg bod Cymru 'di ennill, rhedon ni draw i ochr y ffans yn 'neud high fives gyda phlant bach yr holl ffordd just mewn pryd i ni ymuno â phawb cyn i'r chwiban ola' ganu ac i bawb fynd yn nyts.

Arhosodd pawb yn y stadiwm wedyn yn canu - fi'n credu canon ni'r anthem ddwywaith! O'dd e'n wych. Wedyn 'nath holl ffans Cymru aros yn y maes parcio yn yfed - am ryw reswm o'dd na glwb nos 'na - a 'na gyd fi'n gallu cofio yw dawnsio ar ben wal i 2 Unlimited gyda ffrind fi Huw.

Ffynhonnell y llun, Anadolu Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna ddigon o ddathlu ar ac oddi ar y cae ar ôl i Cymru drechu'r Belgiaid

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Fel y boi.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

It's a Wonderful Life - sôn am prozac mewn ffurf VHS.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Sir David Attenborough am chats, Richard Burton am yfed/canu/rhesymau rhywiol.

Ffynhonnell y llun, Samir Hussein
Disgrifiad o’r llun,

David Attenborough yn ysbrydoli o'r prif lwyfan yng ngŵyl Glastonbury eleni

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Oakwood [parc antur yn Sir Benfro].

Beth yw dy hoff gân a pham?

Ex Factor gan Lauren Hill - ma' fe'n disgrifio pethynas toxic yn berffaith ac ma fe'n gymaint o sbort i ganu. Hefyd Are You With Me Now gan Cate le Bon.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Tempura prawns, chicken kiev a sticky toffee pudding. Bwydlen priodas ni 'blaw 'nath Rhod cael fish pie fel opsiwn hefyd.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Ci fi Rhosie. Ma' pawb yn caru hi a ma' amserlen hi'n hollol ffab - dihuno lan, byta, nôl i'r gwely, mynd am dro, chware pêl, cwtsh o flan y teledu, byta, nôl i gysgu. Bliss.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw