Dioddefwr Covid-19 yn diolch i'r GIG am achub ei fywyd

  • Cyhoeddwyd
Scott Howell
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Scott Howell ei roi mewn coma am bythefnos

Mae dyn a fu'n agos at farw o'r coronafeirws wedi dweud y bydd yn cymeradwyo staff y Gwasanaeth Iechyd bob dydd am weddill ei oes am achub ei fywyd.

Scott Howell o Wyllie ger Y Coed Duon oedd y claf cyntaf i gael ei drin yn adran gofal dwys Ysbyty Brenhinol Gwent, ddechrau mis Mawrth.

Yn ystod wyth wythnos yn yr ysbyty, fe stopiodd ei galon ddwywaith.

Roedd y gŵr 48 oed yn dioddef o niwmonia i ddechrau, a phan ledaenodd hwnnw i'w ysgyfaint cafodd ei roi mewn coma am bythefnos a hanner.

Nid yw'n cofio dim am y cyfnod hwnnw, ar wahân i freuddwydion llachar, ond daeth i ddeall mwy ar ôl darllen nodiadau'r nyrsys.

'Naill ffordd neu'r llall'

"Wnaethon nhw ond dweud fy mod wedi bod mor dost ag y gallai unrhyw un fod hefo'r feirws yma, ac y gallai fod wedi mynd y naill ffordd neu'r llall," meddai.

"Ond pan ddarllenais nodiadau'r nyrsys, d'wedon nhw bod fy nghalon wedi stopio a'u bod wedi gorfod gwneud CPR arnaf fi.

"Wrth ddarllen hynny mi wnes i feddwl: 'O, mi allwn i fod wedi marw yn fanna'."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Soniodd Scott, yma gyda'i wraig Helen a'i ferch Ruby, am y rhyddhad o adael yr ysbyty

Cafodd Mr Howell ffisiotherapi dwys am bod ei goeasu'n wan, ond mae'n dweud nad yw'n teimlo'n wahanol ar wahân i hynny.

Ond mae'n dweud iddo "ail-asesu" ei fywyd wedi'r profiad.

"Ar wahân i achub fy mywyd, mae o wedi newid fy mywyd achos dyw'r pethau bychain ddim yn cyfri' ddim mwy.

"Chi ond isie bod gyda'ch teulu ac yn yr awyr iach."

Mae fideo o Mr Howell yn gadael yr ysbyty'r wythnos diwethaf wedi cael ei wylio a'i hoffi gan filoedd o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol, ond doedd o ddim yn credu pan ddechreuodd y staff yn ei gymeradwyo, meddai.

"Fi ddylai fod yn clapio iddyn nhw. Yn syml iawn, roeddwn i'n cysgu am wythnosau.

"Nhw oedd yn gwneud y gwaith i achub fy mywyd..."

"Maen nhw'n bobl ryfeddol, ffantastig. Byddaf yn eu cofio nhw am byth.

"Dywedais wrthyn nhw na fyddaf yn clapio iddyn nhw ddydd Iau, byddaf yn gwneud hynny bob dydd am weddill fy oes oherwydd dwi wedi cael fy mywyd yn ôl, diolch i chi."