Pryder am swyddi yn y diwydiant awyrennau ger Caerffili
- Cyhoeddwyd

Mae GE Aviation yn cyflogi tua 1,400 ar ei safle yn Nantgarw
Mae cwmni General Electric, sy'n cyflogi 1,400 o weithwyr yn Nantgarw, ger Caerffili, wedi dechrau trafodaethau ynglŷn â'r posibilrwydd o ddiswyddiadau oherwydd colledion yn sgîl argyfwng coronafeirws.
Mae'r cwmni, sy'n cynhyrchu peiriannau i'r diwydiant awyrennau, yn dweud y gallai'r wasgfa economaidd effeithio ar 13,000 o'r 52,000 o weithwyr maen nhw'n eu cyflogi ledled y byd.
Hwn yw'r arwydd diweddaraf bod y diwydiant hedfan awyrennau yn paratoi ar gyfer effaith hirdymor y cyfyngiadau ar deithio.
Mae GE Aviation yn cynhyrchu injans ar gyfer cwmnïau Boeing ac Airbus ar y safle ger Caerffili.
Mae'r cwmni eisoes wedi cyhoeddi y bydd y toriadau o 10% yn nifer eu gweithlu yn yr Unol Daleithiau, ond bod angen "rhagor o doriadau."

Fe wnaeth y safle yn Nantgarw sichrau cytundeb gwerth £20m yn 2017
"Mae'r cwmni yn ymgynghori gyda'u holl weithwyr ar y safle yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sydd eisoes ar seibiant cyflog, er mwyn trafod diswyddo gwirfoddol," meddai llefarydd.
"Ond fe fydd nifer y bobl allai gael eu heffeithio ond yn cael ei ddatgelu ar ddiwedd y broses ymgynghori."
Daw'r newyddion am yr ymgynghoriad dair blynedd ar ôl i safle Nantgarw ennill cytundeb gwerth £20m er mwyn gwaith cynnal a chadw ar yr injan jet, GE9X.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020