Pen-y-graig: Teyrnged i John Rees, 88, fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 88 oed a fu farw mewn digwyddiad gyda chyllell mewn siop yn y Rhondda wedi ei enwi.
Roedd John Rees o Drealaw, Tonypandy wedi bod yn siopa yn archfarchnad Co-op ym mhentref Pen-y-graig pan gafodd ei drywanu brynhawn Mawrth.
Mewn teyrnged fe ddywedodd teulu Mr Rees ei fod yn "ddyn da" ac "uchel ei barch" o fewn y gymuned.
"Roedd yn falch iawn o'i deulu, yn falch o fod yn Gymro ac yn ymroddedig i'w eglwys. Fe fydde ni'n ei fethu'n ofnadwy," ychwanegodd y datganiad.
Cafodd menyw 29 oed o ardal Porth ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn y digwyddiad, ac mae'n dal yn y ddalfa.
Mae dyn arall mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ac mae dau arall wedi cael anafiadau sydd ddim yn peryglu bywyd.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Mark O'Shea o Heddlu De Cymru bod ymholiadau i'r digwyddiad yn parhau.
"Mae ein cydymdeimlad gyda theulu Mr Rees ar y adeg trallodus hyn ac maent yn cael eu cefnogi gan ei swyddogion.
"Yn naturiol mae'r digwyddiad hwn wedi creu sioc fawr yn y gymuned leol ac rwyf eisiau tawelu meddyliau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal."
Erbyn hyn mae traffig yn gallu mynd a dod ar y stryd ond mae'r heddlu'n dal yn bresennol y tu allan i'r Co-op.
Dyw'r siop ddim wedi ailagor ond chafodd neb oedd yn gweithio yno eu hanafu yn y digwyddiad.
Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu eu bod wedi cael gwybod ddydd Mawrth am y digwyddiad ym Mhen-y-graig.
"Rydym yn disgwyl gan y llu iddyn nhw gyfeirio'r mater yn ffurfiol atom," meddai llefarydd.
"Byddwn wedyn yn asesu cyn penderfynu os oes angen unrhyw ymchwiliad gan yr IOPC."
'Cymuned glos'
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Dorian Lloyd bod y digwyddiad wedi bod yn "sioc i'r gymuned leol".
"Mae Pen-y-graig yn gymuned glos sydd nawr wedi ennyn sylw cenedlaethol mewn amgylchiadau trasig," meddai.
Ychwanegodd ei fod eisiau talu teyrnged i'r swyddogion ac aelodau o'r cyhoedd oedd yno am roi cymorth cyntaf ac y bydd y llu yn parhau i fod a phresenoldeb yn yr ardal.
"Mae fy meddyliau a'n cydymdeimlad yn parhau gyda theulu'r dioddefwr a'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad yma ar adeg mor drist," meddai.
Dywedodd un llygad dyst, Rob, oedd ddim am roi ei enw llawn, ei fod wedi gweld swyddogion heddlu ac ambiwlans yn rhedeg o gwmpas tu allan, a bod yr heddlu wedi rhoi gorchymyn iddyn nhw adael yr ardal.
"Chi ddim yn disgwyl gweld hyn ar eich stepen drws, dim yn y cymoedd," meddai.
"Yn y dinasoedd mawr chi'n clywed am hyn yn digwydd trwy'r amser ond ddim yn y cymoedd lle mae pawb yn nabod pawb."
Mae'r heddlu'n parhau i ofyn i lygad dystion sydd heb gysylltu â nhw i wneud hynny trwy ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020