'Dawnsio, canu a chadw reiat': Atgofion am Ddiwrnod VE
- Cyhoeddwyd
Wrth nodi union 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop, mae'n gyfle i glywed am atgofion pwysig pobl o'r cyfnod.
Un ddaeth yn faciwî o Lerpwl i Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd oedd Glenys Pritchard, neu Parry bryd hynny.
A hithau'n 87 oed, cafodd ei geni yn ardal Aigburth ond mae hi bellach yn byw ym Mhorthaethwy ac yn hel atgofion yn aml am ddyddiau'r rhyfel.
"O'n i tua saith oed pan ddoth y rhyfel a dwi'n cofio Mam yn prynu ces bach i mi a mynd a gweu bach a bwyd, llyfr a chlai i chwarae efo fo, a gas mask a'i roi tu ôl i'r gadair yn yr ysgol.
Disgwyl trwy'r dydd
"Munud o'dd y seiran yn mynd o'dda ni'n cerdded allan o'r ysgol - nid rhedeg - ac o'dd 'na gae mawr wrth ymyl efo tri shelter mawr yna.
"Oddan ni yn gwybod yn union lle oeddan ni yn mynd, dilyn yr athrawes. Dim rhedeg, jest cerdded. O'dda ni'n meddwl bod o'n hwyl wrth gwrs. O'dda ni'n ifanc a ddim yn sylweddoli'r peryglon, beth oedd yn mynd ymlaen.
"O'dda ni yna weithiau trwy'r dydd. Yr all clear ddim yn mynd a pan odd yr all clear yn mynd cerdded yn ôl, a'n mamau ni, rhan fwyaf ohonyn nhw rownd y railings yn disgwyl amdana ni, a chipio ni a rhedeg adra i ni fod yn saff yn ein cartrefi."
"Dwi'n cofio Mam hefyd yn mynd â ni lawr i waelod y stryd i weld y balloon barrages anferth o'dd uwchben yr Afon Mersi a dysgu cyfri'r rheiny.
"O'dda ni ddim ofn, o'dd o'n rhan o fywyd. O'dda ni'n clywed y bomiau a jyst rhoi'n dwylo ar ein clustiau."
Ond pan waethygodd pethau yn Lerpwl a'r bomio yn amlach ac yn fwy ffyrnig, fe benderfynodd teulu Glenys y byddai'n well iddi fynd i fyw at ei nain yng Ngharmel, cyn symud i Benygroes yng Ngwynedd.
"Gafon ni amser hapus iawn yno," meddai. "Mae gen i go' o'r faciwîs eraill yn cyrraedd o Lerpwl, y plant 'ma yn dod odd'ar y trên efo'u paciau - rhai efo paciau blêr, dillad blêr. Dwi'n cofio teimlo, o'dd 'na rai yn cael eu gadael ar ôl ella, achos bod nhw'm 'di cael eu gwisgo cyn ddeled. O'dd gen i biti drostyn nhw.
"O'dd 'na ewythr i mi yn yr Home Guard a wedyn fo o'dd yn didoli'r plant, lle o'ddan nhw fod i fynd i aros. Rheiny o'dd fy ffrindiau i gyd achos o'n i'n 'nabod y ffordd o'ddan nhw'n siarad, 'nabod yr acen.
"O'n i'n synnu sut o'dd plant Lerpwl yn dysgu Cymraeg mor sydyn, o'dd o'n wych.
Dysgu Cymraeg
"O'ddan nhw'n dod i'r ysgol a'r ysgol Sul - pawb yn siarad Cymraeg efo nhw. Yn y diwadd nath rhai faciwîs dyfu fyny a phriodi yn Penygroes."
Wrth edrych yn ôl ar Ddiwrnod VE, atgofion hapus sydd gan Glenys ar y cyfan - er ei bod yn sylweddoli nad oedd hi felly i bawb.
"O'dd y rhan fwya' o'r dynion yn dal i ffwrdd wrth gwrs, ond o'dd ein mamau ni wrthi'n brysur yn coginio a ninnau allan ar y strydoedd yn cael hwyl yn dawnsio, gweiddi canu a chadw reiat.
"Dwi'n cofio dyn Siop Dic, fel o'ddan ni'n galw hi'n y pentre', yn rhoi hufen ia i ni. O'dd 'na rations adeg hynny felly o'dd hi'n anodd, ond o'dd o 'di cael digon i 'neud yn siŵr bod 'na beth i bawb."
Roedd y pentre' wedi trefnu parti gardd gyda'r nos a phawb wedi gwisgo fyny, meddai Glenys.
"O'dd 'na gystadleuaeth a dwi'n cofio'n mamau ni 'di gwneud y dillad crand 'ma i ni. O'ddan nhw 'di treulio oriau'n gwneud nhw.
Atgofion
"O'dd fy mrawd wedi gwisgo fel Winston Churchill. O'dd ffrind Mam wedi gwneud sigâr fawr anferth bren a'i phaentio'n frown efo blaen coch arni. Fo gafodd gynta'.
"O'n inna' wedi cael fy ngwisgo fel Jac yr Undeb efo het fawr ar fy mhen.
"Hwyl o'dd o, o'ddan ni'n hapus. Er, o'dd 'na deuluoedd anhapus iawn 'di colli'u tadau a'u teidiau wrth gwrs.
"Dydy o ddim yn teimlo fel 75 mlynedd yn ôl. Dwi'n medru mynd 'nôl a meddwl am bethau - digalon a hapus.
"Ma' isho cofio'n does."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd2 Medi 2019