Cais am atgofion o'r Ail Ryfel Byd yn ardal Y Trallwng
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn awyddus i hel atgofion pobl ardal Y Trallwng o'r Ail Ryfel Byd er mwyn creu arddangosfa yng Nghastell Powys.
Rhwng 1939 a 1946 bu'r castell yn gartref i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Ashford i ferched wedi iddynt orfod adael eu cartrefi yn Middlesex.
Cafodd y merched eu gwahodd i'r ysgol ar ddechrau'r rhyfel gan George Herbert, pedwerydd Iarll Powys.
Yn ystod y ddwy flynedd nesaf bydd arddangosfa yn cael ei chreu yn y castell a bydd cyfle i glywed lleisiau a lluniau pobl a oedd yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae yna gais hefyd i unrhyw un a ddaeth i'r ardal oherwydd y rhyfel i anfon eu hatgofion - boed yn faciwîs o Lannau Mersi, yn un o ferched Byddin y Tir neu'n garcharor rhyfel.
Mae Robin Trimby, 84 oed, yn gwirfoddoli yn y castell ac mae e'n awyddus i gymharu ei brofiad ef fel faciwî ar gyrion Llundain â phrofiad y merched a ddaeth i Gastell Powys.
"Roeddwn i'n arfer," meddai Robin, "mynd allan i hel y darnau gorau o'r awyrennau Almaenig a oedd wedi gwrthdaro er mwyn eu dangos yn yr ysgol. Yn aml byddwn yn gorffen fy ngwaith cartref mewn cuddfan rhag y cyrchoedd awyr.
"Yn ystod sŵn y seiren fe fyddai'r teulu cyfan yn cysgu o dan fwrdd y gegin.
"Er mawr sioc i mam fe fyddwn i a'm mrawd yn aml yn cael golwg gyflym tu ôl y llenni du ar y cannoedd o awyrennau oedd yn llenwi'r awyr.
"Rwy'n cofio hynny yn well na'r hyn a wnes i wythnos ddiwethaf.
"Ro'wn yn ffodus iawn bod difftheria wedi taro'r ysgol pan rwygodd bom tir yr ystafell y buaswn wedi bod yn cysgu ynddi - ond fe gafodd rhai o staff yr ysgol eu lladd."
Dywedodd Emma Thompson o Gastell Powys: "Ry'n yn ymwybodol o gyfraniad enfawr pobl leol yn ystod y rhyfel - rhai yn croesawu ac yn gofalu am faciwîs, eraill yn gweithio ar ffermdir ger y castell a rhai yn cadw carcharorion rhyfel.
"Mae'n bwysig cofnodi'r amser pwysig hwn yn hanes Y Trallwng.
"Byddai'n dda petai pobl yn dod atom gyda'u straeon fel ein bod yn gallu eu cofnodi a'u hychwanegu at ein harddangosfa yn ystod y ddwy flynedd nesaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2015
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2014