Pryder y gall Undeb Rygbi Cymru wneud colled o £50m heb gemau

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn rhagweld y byddai'r undeb yn gwneud colledion o £50m os na fydd modd cynnal gemau'r hydref a Chwe Gwlad 2021.

Mae'r RFU, sy'n gyfrifol am rygbi yn Lloegr, yn amcan y byddan nhw'n gwneud colled o £107m os na fydd gemau'r hydref yn cael eu cynnal.

Dywedodd Martyn Phillips o Undeb Rygbi Cymru y byddan nhw'n ystyried gofyn am gymorth ariannol gan y llywodraeth os na fydd modd cynnal gemau rygbi tan y flwyddyn nesaf.

"Os na fyddan ni'n chwarae gemau yn yr hydref neu'r Chwe Gwlad, mae'n bosib y byddan ni'n edrych ar golled o £50m mewn refeniw, neu rywbeth o'r maint yna," meddai Phillips.

"Mae hi wastad yn anodd rhagweld gwerth gemau unigol ond pan 'da chi'n gweld yr adroddiad blynyddol fe welwch y ddibyniaeth ar gemau rhyngwladol.

"'Da ni o bosib yn llai dibynnol ar gemau rhyngwladol na'r RFU ond mae'n parhau i gyfrannu at y mwyafrif o'n busnes."

Hanner incwm yn dod o gemau

Incwm grŵp URC yn ystod y flwyddyn ariannol 2018/19 oedd £90.5m gyda hanner y ffigwr yna, £44.5m, yn deillio o gemau Stadiwm Principality.

Mae Cymru i fod i gynnal saith gêm brawf yng Nghaerdydd rhwng Hydref 2020 a Mawrth 2021.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Martyn Williams yn gyn- gapten tîm rygbi Cymru

Ni chafodd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ei chwblhau yn gynharach eleni oherwydd y pandemig ac mae rygbi, fel nifer o gampau eraill, wedi ei atal ar hyn o bryd.

Mae'n edrych mai dim ond mater o amser fydd hi nes y bydd taith haf Cymru, yn cynnwys gemau prawf yn erbyn Seland Newydd a Japan, yn cael ei gohirio.

Mae corff llywodraethu rygbi'n rhyngwladol, World Rugby, yn ystyried nifer o fesurau mewn ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

Un o'r rhai hynny fyddai cynnal gemau'r hydref y tu ôl i ddrysau caeedig.

'Rhyfedd iawn heb dorf'

Byddai chwarae gemau rhyngwladol tu ôl i ddrysau caeedig yn "swreal" medd rheolwr tîm Cymru, Martyn Williams.

"Byddai chwarae gêm ryngwladol heb dorf yn rhyfedd iawn," meddai.

"Fe wnes i wylio gêm Cynghrair y Pencampwyr cyn y cyfyngiadau, PSG yn erbyn Dortmund, ac roedd hi'n rhyfedd iawn gwylio ar y teledu gyda dim torf yno.

"Ond os mai dyna beth fydd y llywodraeth yn mynnu er mwyn cynnal diogelwch, yna bydd yn rhaid i bawb weithio gyda hynny."