Jonathan Davies yn ofni 'problemau enfawr' os nad oes gemau
- Cyhoeddwyd
Bydd rygbi yn cael "ergyd enfawr" os na fydd gemau rhyngwladol yn cael eu cynnal yn yr hydref, medd cyn-faswr Cymru Jonathan Davies.
Mae holl weithgareddau rygbi wedi cael eu hatal ers mis Mawrth oherwydd yr argyfwng coronafeirws.
Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru Martyn Phillips yn rhagweld y byddai'r undeb yn gwneud colledion o £50m os na fydd modd cynnal gemau'r hydref a Chwe Gwlad 2021.
"Os na fydd gemau yn mynd i fod yn yr hydref yna fi'n credu bydd problemau enfawr," meddai Davies.
"Bydd problemau enfawr nid dim ond i Gymru ond timau dros y byd i gyd.
"Does neb yn gwybod beth sydd yn mynd i ddigwydd. Does neb wedi bod trwy sefyllfa fel hyn o'r blaen."
Problemau teithio
Cafodd cynghrair y Pro14, sy'n cynnwys rhanbarthau Cymru, ei hatal ym mis Mawrth.
Gyda thimau o'r Eidal, De Affrica, Iwerddon a'r Alban hefyd yn cystadlu, nid yw Davies yn gallu gweld tymor 2019-20 yn ailddechrau oherwydd cyfyngiadau teithio.
Awgrymodd y gall rygbi yng Nghymru droi yn ôl at y clybiau am y tymor byr tra bod teithio wedi ei gyfyngu.
"Mae'n mynd i fod yn anodd iawn gyda phroblemau trafeili," meddai Davies wrth BBC Radio Cymru.
"Gyda phroblemau trafeili efallai be' sydd angen gwneud yw chwarae dim ond timau yn y wlad hon ac efallai byddai'n mynd yn ôl i'r clybiau am sbel fach.
"Gyda'r problemau trafeili mae hynny yn rhywbeth i edrych arno.
"Ond beth sydd fwya' pwysig yn awr yw gemau rhyngwladol, achos 'na lle mae'r arian yn dod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020