Cofio'r 'athrylith' â rôl ganolog yn hanes Hong Kong
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi rhoi i economegydd ac academydd o Gymru a wnaeth gyfraniad enfawr i fywyd cyhoeddus Hong Kong.
Yr Athro Leo F Goodstadt oedd pennaeth cyntaf Uned Polisi Canolog Hong Kong ac, yn sgil hynny, prif ymgynghorydd polisi Llywodraeth Hong Kong rhwng 1989 a 1997.
O'r herwydd roedd yn gyfrifol am greu strategaethau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol yn y cyfnod cyn i'r DU drosglwyddo'r rhanbarth yn ôl i China dan y drefn 'dwy wlad, un system'.
Bu farw yn 81 oed yn ei gartref yn Nulyn, ble symudodd ar ôl gadael uned polisi'r llywodraeth.
Aeth i Hong Kong yn 1962 i wneud gwaith ymchwil ar ôl astudio economeg ym Mhrifysgolion Manceinion a Rhydychen a chael ei benodi'n ddarlithydd economeg ym Mhrifysgol Hong Kong yn 1964.
Cafodd ei wneud yn Gymrawd er Anrhydedd yn y brifysgol honno maes o law, ac roedd hefyd yn athro dirprwyol yn Ysgol Astudiaethau Busnes Coleg y Drindod ym Mhrifysgol Dulyn.
Cyn ei benodiad gyda'r llywodraeth roedd wedi gwasanaethu ar sawl fwrdd statudol ac ymgynghorol, gan gyfrannu at ddiwygiadau o bwys yn ymwneud ag etholiadau, lles, effeithlonrwydd gweinyddol a pholisïau cyllidol.
Roedd hefyd yn rhoi cyngor arbenigol i fusnesau a sefydliadau ariannol blaenllaw oedd ag asedau sylweddol yn y Dwyrain Pell.
'Cymru'n agos at ei galon'
Mewn datganiad yn mynegi tristwch wedi ei farwolaeth, dywedodd Prifysgol Hong Kong: "Yn ogystal â bod yn ysgolhaig, economegydd ac ymgynghorydd llywodraeth blaenllaw, roedd yn un o awduron gorau Gwasg Prifysgol Hong Kong.
"Bydd yn cael ei golli ganddom ni oll."
Treuliodd rywfaint o'i blentyndod yn Sir Benfro ond ym Modfari, yn Sir Ddinbych y daeth i nabod Dr Iestyn Daniel a'i deulu yn y 1950au.
Roedd mam Dr Daniel, fel y darpar economegydd, yn aelod o'r Cylch Catholig a sefydlwyd gan Saunders Lewis i ledaenu'r ffydd Gatholig ymhlith Cymry Cymraeg.
"Llew oeddan ni'n ei alw fo a Rhosyn oeddan ni'n galw ei wraig, Rose," meddai Dr Daniel. "Roedd o fel brawd mawr arall i mi ac ro'n i wastad yn hoffi ei weld o.
"Roedd o'n dipyn o athrylith, a dweud y gwir. Wnaeth o ddim treulio llawer o amser yng Nghymru ar ôl mynd i Hong Kong ond roedd Cymru, a'r ffydd Gatholig, yn agos iawn at ei galon.
"Doedd o ddim yn amlwg o gwbl efallai yng Nghymru ond mi wnaeth gyfraniad mawr i'r bywyd Cymraeg Catholig."
Mae'n gadael gweddw a dau o blant, Leo a Patricia.