Buddsoddwyr newydd i ranbarth rygbi'r Gweilch
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp marchnata chwaraeon wedi prynu cyfran o 75.1% yn rhanbarth rygbi'r Gweilch.
Cwmni Y11 Sports & Media, sydd wedi eu lleoli yn y Dwyrain Pell, fydd prif gyfranddalwyr newydd y rhanbarth.
Bydd eu prif weithredwr James Davies-Yandle a'i bartner busnes a'r ariannwr Donald Tang yn ymuno fel cyfarwyddwyr.
Dywedodd Robert Davies, fydd yn parhau fel cadeirydd y rhanbarth, y bydd y buddsoddiad yn "drawsnewidiad hir dymor."
Mae cwmni newdd, Ospreys International Group, wedi ei sefydlu a dywed y Gweilch y bydd arian yn cael ei fuddsoddi yn y rhanbarth.
Bu'r Gweilch yn chwilio am fuddsoddwyr newydd ers i gynllun i uno gyda'r Scarlets fethu yn 2019.
Mae'r tîm wedi cael tymor anodd, gan ennill ond dwy gêm yn unig a'r prif hyfforddwr Allan Clarke yn gadael.
Cafodd cyn hyfforddwr Cymru Mike Ruddock ei benodi yn gyfarwyddwr perfformiad gyda Toby Booth yn brif hyfforddwr.