Ymgyrch i gadw Covid-19 ar gof y genedl
- Cyhoeddwyd
Pan fydd pobl yn edrych yn ôl ar gyfnod Covid-19 yng Nghymru, mae'n bosib bydd gan y Llyfrgell Genedlaethol gasgliad amrywiol iawn ynglŷn â phrofiadau pobl.
Mae'r llyfrgell wedi dechrau casglu eitemau, gan gynnwys cyhoeddiadau fel papurau newydd a chyfeiriadau gwefannau.
Yn ogystal, mae'r llyfrgell yn awyddus i gasglu deunydd personol ac maen nhw'n apelio am gyfraniadau.
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn gofyn i'r cyhoedd rannu eu profiad trwy gyfrwng o'u dewis - yn llythyrau, dyddiaduron, fideos, recordiadau llais neu luniau."
Ceisio deall y cyfnod
Ac mae 'na gyfle i ateb holiadur "gan ofyn iddynt feddwl am sut mae ei diwrnod arferol wedi newid; beth sydd fwyaf heriol; beth sydd wedi bod yn annisgwyl; pa fath o bethau sy'n achosi pryder; beth maen nhw wedi gwneud er mwyn delio gyda'r sefyllfa a beth yw'r pethau positif i ddod o'r profiad?
"Y pethau cyffredin yn eu bywydau. Wrth gofnodi'r profiadau unigryw hyn byddwn yn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn deall y cyfnod a'i effaith yn well."
Dywedodd Pedr ap Llwyd, prif weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae'n bwysig ein bod yn chwarae rhan ragweithiol wrth sicrhau bod stori'r Cymry yn ystod argyfwng Covid-19 yn cael ei gofnodi mor gyflawn â phosib ac wedi'i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Dywedodd Nia Wyn Dafydd, Rheolwr Hyrwyddo a Marchnata'r Llyfrgell: "Mae'n ddyddiau cynnar eto wrth gwrs - ond yn y pendraw pan fyddwn ni'n edrych yn ôl ar y cyfnod, bydd y cofnodion sy'n dod i law yn amhrisiadwy wrth i ni geisio darlunio sut gwnaeth pobl Cymru ymateb i heriau'r cyfnod - ac fe fyddant yn ychwanegiad gwerthfawr i archifau'r Llyfrgell."
Am fwy o fanylion am sut i gymryd rhan ewch i dudalen Casglu Profiad Covid-19 Cymru ar wefan y Llyfrgell.
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd