Beth yw'r problemau wrth ailagor ysgolion yng Nghymru?

  • Cyhoeddwyd
DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Wrth i ddisgyblion ddechrau dychwelyd i'r dosbarth mewn rhai rhannau o Ewrop, mae yna gwestiynau am sut y bydd ailagor ysgolion yn gweithio yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd pob disgybl yn dychwelyd ar yr un pryd, ac y bydd rhaid cael mesurau i ddiogelu staff a disgyblion.

Yn ôl prifathro un ysgol ym Maesteg, mae angen mwy o wybodaeth ar ysgolion cyn gallu gwneud trefniadau.

Mae rhai arbenigwyr yn dweud bod yr argyfwng yn cynnig cyfle i gyflwyno newidiadau sylfaenol i'r ffordd mae ysgolion yn gweithio.

Tair wythnos 'ddim yn ddigon'

Mae Meurig Jones, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, yn awyddus i weld y disgyblion nôl "mor glou â phosib" ond dim ond ar ôl "cynllunio manwl a chlir."

"Mae 'na nifer o gwestiynau sydd heb eu hateb," meddai.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai ysgolion yn cael o leia' dair wythnos o rybudd cyn ailagor, ond yn ôl Mr Jones, dydy hynny ddim yn ddigon.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Meurig Jones bryder am sut y bydd modd cadw pellter cymdeithasol mewn ysgolion

"Fel arfer mae 'na 650 o ddisgyblion yn dod i'r ysgol hon, ond mae'r llywodraeth wedi dweud mai yn raddol fydd disgyblion yn dychwelyd pan ddaw unrhyw gyhoeddiad.

"Mae angen i ni wybod sut bydd ein hadeiladau ni'n gallu cymryd y carfannau yma o blant mewn, a bo' ni'n cydymffurfio i'r rheolau sydd yn cael eu rhoi ar gyfer y pellter cymdeithasol," meddai.

"Ond hefyd mae'n rhaid i ni wybod faint o staff fydd gyda ni.

"Mae'n stafelloedd cyffredinol ni'n stafelloedd bychan iawn. Ni'n edrych wedyn ar dorri dosbarthiadau lan - does gennyn ni ddim y staff i wneud hynny."

Effaith ar y Gymraeg

Mae trafnidiaeth yn her arall.

"Mae 98% o'n plant ni'n dod i'r ysgol ar fws. Ble mae'r pellter cymdeithasol ar fysiau?" meddai Mr Jones.

Ailagor yn raddol fydd ysgolion yn ôl y llywodraeth, ac mae pennaeth Ysgol Llangynwyd yn gweld y ddadl dros roi blaenoriaeth i ddisgyblion sydd yng nghanol cyrsiau TGAU a Safon Uwch, ac i ysgolion Cymraeg hefyd.

Mae'n poeni y gallai cyfnod estynedig heb glywed na defnyddio'r Gymraeg gael effaith ar hyder y disgyblion ac o bosib ar eu cyrhaeddiad academaidd.

"Mae 'na gyfleoedd i ddefnyddio'r Saesneg yn fwy eang o fewn cymdeithas a falle bod angen rhoi mwy o gefnogaeth i'r rheiny lle nad oes yr un cyfleodd ar eu cyfer nhw mewn ardal fel hon," meddai.

'Cyfle i arbrofi'

Yn sicr, bydd ysgolion yn gorfod gweithredu mewn ffordd wahanol, ond mae rhai'n dweud bod angen cymryd y cyfle i wneud gwelliannau ar gyfer yr hirdymor.

Mae Dafydd Trystan yn aelod o banel arbenigol gafodd ei sefydlu gan y llywodraeth y llynedd i ystyried dyfodol ysgolion.

"Mae patrwm ysgolion yng Nghymru yn seiliedig ar fodel o 150 o flynyddoedd yn ôl," meddai.

"Mae'r tymhorau'n seiliedig ar dymhorau ffermydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Trystan yn dweud mai nawr yw'r amser i wneud newidiadau mwy radical

Bu'r panel yn ystyried strwythur y flwyddyn a'r diwrnod ysgol a rôl ysgolion yn eu cymunedau.

"Yn y cyfnod yma mae e'n gyfle i arbrofi gyda gwahanol ffurfiau o ddyddiau ysgol, gyda phatrymau gwahanol, gyda dulliau gwahanol o gefnogi plant a'u teuluoedd," meddai Mr Trystan.

"Mae'n gyfle delfrydol yn fy marn i ystyried be allwn ni neud i osod ysgolion ar batrwm llawer mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol gobeithio."

Ymhlith y syniadau mwyaf perthnasol yw hyblygrwydd o ran tymhorau a diwrnodau ysgol sy'n cyd-fynd yn well gyda phatrymau gwaith, meddai Mr Trystan.

"Byddai angen adnoddau, byddai angen cyflunio staff yn addas i gefnogi hynny ond mae'r rheiny'n ddwy esiampl eithaf syml y gellid eu gweithredu yn bur gyflym a gwneud gwahaniaeth."