'Dwi'n colli fy wyrion ond yn canu iddynt ar y we'
- Cyhoeddwyd
"Dwi'n colli fy nau ŵyr bach yn ofnadwy," medd y gantores Mary Lloyd-Davies o Lanuwchllyn, "ac felly dwin'n canu rhigymau iddynt ar y we.
"Dwi fel arfer yn edrych ar eu hôl unwaith yr wythnos ond gan eu bod yn byw yng Nghricieth, dwi ddim yn gallu eu gweld nhw ers i'r cyfyngiadau ddod i rym," ychwanegodd.
"Dwi'm yn gwybod os ydyn nhw'n edrych - ond dwi'n canu bob wythnos iddyn nhw ar facetime."
'Canu yn rhyddhau tensiwn'
Ond ar nos Sul mae'r gantores fyd-enwog i'w gweld ar ganol ffordd yn Llanuwchllyn yn arwain y pentre cyfan i ganu emynau.
"Does wybod lle 'newch chi ddod o hyd i fi - ar y linell wen ynghanol y ffordd fel arfer wedi ymgolli yn y canu.
"Dwi wrth fy modd. Mae canu yn rhyddhau emosiwn - mae'n ffordd dda o gael gwared o luddiant, tensiwn, dicter ac yn rhoi cymaint o bleser i rywun.
"Mae'n gallu eich codi o lefydd trist a thywyll iawn ac yn y cyfnod yma mae'n pontio'r cenedlaethau mewn cyfnod lle mae pobl yn colli gweld ei gilydd."
Y gweinidog, y Parchedig Carwyn Siddall, sydd wedi sicrhau fod y peth yn bosib a bod modd clywed Mary Lloyd-Davies yn canu o un pen y pentref i'r llall.
"Ry'n ni'n canu pedwar emyn i gyd - ac yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel sy'n cyd-fynd â'r canllawiau presennol," meddai.
"Syniad un person oedd o i ddechrau ac mae wedi cydio.
"'Dan ni'n canu pedwar emyn a thipyn o fynd ynddynt.
"Dan ni ddim wedi cael tywydd gwael hyd yma - ond i ddweud y gwir dwi'n meddwl bod y canu wedi cadw y tywydd drwg bant - ac mae'r gwynt yn gallu bod o gymorth i'r sain.
"Mae'n gyfnod gwahanol iawn - cyfnod lle 'dan ni hefyd yn gweld pobl yn dod i'r drws wrth i angladd fynd heibio," ychwanegodd y parchedig Siddall.
"Ydi mae nain yn dal i ganu ac yn byddaru pawb," medd Mary Lloyd-Davies sy'n hyfforddi nifer o gantorion eraill.
"Ma' gweld eraill yn mwynhau'r canu ac yn ceisio eich efelychu chi yn bleser pur - ac mae'n bleser gweld pobl ifanc yn ymddiddori mewn canu.
"Ydw dwi'n canu rhigymau i'r ddau ŵyr bach bob wythnos - gobeithio nad ydynt yn rhy brysur a'u bod yn edrych weithiau ar nain yn canu," ychwanegodd Ms Davies.
Mae modd clywed mwy o hanes y canu yn Llanuwchllyn ar Bwrw Golwg, am 12.30 ddydd Sul ar BBC Radio Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020