Ymchwiliad wedi tân angheuol ym Mryneglwys

  • Cyhoeddwyd
Bryneglwys

Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn ymchwilio i achos tân angheuol mewn tŷ ym mhentref Bryneglwys, ger Corwen yn Sir Ddinbych.

Cafodd corff y dyn ei ddyn ei ganfod yn y tŷ nos Wener.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod yn credu fod y dyn yn ei 60au.

Cafodd tri chriw o ddiffoddwyr, o Wrecsam a Chorwen, eu galw i'r digwyddiad ychydig wedi 21:00.