Achub tŷ 'hanesyddol' yn Nhalacharn

  • Cyhoeddwyd
Stephen Kirkwood, perchennog newydd Island House yn Nhalacharn
Disgrifiad o’r llun,

Fe brynodd Stephen Kirkwood Island House yn Nhalacharn

Mae ymgyrchwyr yn dathlu ar ôl ennill eu brwydr i achub adeilad hanesyddol yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Island House, yn Nhalacharn yn dyddio o oes y Tuduriaid ac wedi bod ar y gofrestr 'mewn perygl' ers 2011.

Roedd yr adeilad mewn perygl o gwympo ar unrhyw adeg ac fe ffurfiodd pobl leol grŵp gweithredu i roi pwysau ar y cyn-berchennog a'r awdurdod lleol i'w achub rhag cael ei golli am byth.

Nawr mae prynwr wedi dod i'r fei ac mae gwaith eisoes wedi dechrau ar adfer Island House i'w ogoniant blaenorol.

Mae'r perchennog newydd, Stephen Kirkwood, yn ddatblygwr eiddo sydd wedi byw yn yr ardal ers blynyddoedd.

"Roedd yn rhywbeth ro'n i a fy mrawd Phil wedi meddwl y gallwn ni gymryd 'mlaen a throi'r eiddo yn rhywbeth sy'n werth ei gael yma", meddai.

"Mae Talacharn yn bwysig iawn i ni a hoffwn ni weld hyn yn cael ei adfer. Ry'n ni'n gwybod ei bod hi'n dasg enfawr ond ry'n ni'n edrych ymlaen ati."

Ffynhonnell y llun, Geograph/Stuart Logan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhan o'r tŷ ei dinistrio 'ar ddamwain' gan filwyr Cromwell yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr

"Mae angen eiddo fel hyn ar yr ardal - mae gennym ni gastell godidog, ac roedd hwn yn adfail o'i flaen e. Dw i wedi gyrru heibio'r tŷ hwn bob dydd am ddeugain mlynedd, felly beth am ei wneud?"

Mae Stephen yn disgwyl y bydd y gwaith yn costio rhwng £3m a £4m o bunnoedd i adfer yr adeilad.

Y cynllun yw ei droi yn westy bwtîc ynghyd â bwyty a chaffi, gan ganiatáu i bobl leol ac ymwelwyr gael mynediad.

Mae rhai o'r newidiadau mwyaf dramatig wedi digwydd tu fas i'r tŷ ar dir lle mae llawer iawn o ordyfiant wedi cael ei glirio - maen nhw hyd yn oed wedi dod o hyd i dŷ haf a oedd wedi'i anghofio ers talwm.

Y tu mewn, mae grisiau pren trawiadol a llawer o lefydd tân gwreiddiol yn dal i fodoli.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhan o risiau pren sylweddol a sawl lle tân gwreiddiol yn dal mewn cyflwr gweddol yn yr adeilad

Mae arolygon archeolegol helaeth hefyd yn cael eu cynnal yn y gobaith y bydd y tŷ a'i dir yn datgelu cyfrinachau pellach.

Mae dogfennau hanesyddol yn disgrifio sut y cafodd rhan o'r tŷ ei dinistrio 'ar ddamwain' gan filwyr Cromwell yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr pan gafodd ei daro gan beli magnel oedd yn cael eu tanio at y castell gerllaw.

Mae Island House wedi cael ei ddisgrifio fel adeilad o arwyddocâd cenedlaethol - mae CADW wedi rhoi dynodiad Gradd 2* iddo, sef un islaw'r radd uchaf ar gyfer adeiladau rhestredig.

Mae e wedi bod yn wag ers tua phymtheng mlynedd ac roedd pobl leol yn dechrau meddwl na fyddai byth yn cael ei ail-feddiannu.

Disgrifiad o’r llun,

Denize McIntyre sydd wedi bod yn arwain yr ymgyrch i achub Island House

Denize McIntyre sydd wedi arwain Ymgyrch Save Island House: "Roedden ni'n gwybod bod yr adeilad yn wynebu dedfryd o farwolaeth."

"Roedd yn annhebygol o wrthsefyll deuddeg mis arall, yn sicr ddim llawer hirach, ac fe wnaeth lawer o bobl gefnogi'r ymgyrch.

Fe ddaethon ni i mewn gyntaf ar ddiwrnod gwlyb ac roedd hi'n bwrw glaw y tu mewn!

"Ro'n ni'n troedio trwy flynyddoedd o falurion oedd wedi pydru, a nawr bob tro dwi'n dod i mewn, alla i ddim stopio gwenu wrth weld y cynnydd yn cael ei wneud. Mae'n anhygoel."

'Arwyddocâd cenedlaethol'

"Allai'r tŷ hwn ddim bod yn fwy canolog i Dalacharn ac eto roedd yma fel rhywbeth mor hyll. Felly bydd ei weld yn cael ei adfer yn hwb mawr, hwb i'r gymuned gyfan.

"Gallwn ymfalchïo yn yr adeilad hwn."

Fe wnaeth newyddion BBC Cymru roi sylw i'r ymgyrch i achub yr adeilad ym mis Medi y llynedd.

Bryd hynny, dwedodd y Gymdeithas Diogelu Adeiladau Hynafol bod Island House yn adeilad o arwyddocâd cenedlaethol a oedd wedi bod ar Gofrestr Treftadaeth Mewn Perygl - a luniwyd gan SAVE Britain's Heritage - ers 2011.

Mae'r tîm nawr yn amcangyfrif y bydd yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r prosiect, ac yna fe fydd bywyd yn gallu dychwelyd i Island House.