Ffeiriau 'rhithiol' yn rhoi hwb i grefftwyr
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr ffeiriau crefft arlein yn dweud eu bod wedi cael ymateb ysgubol i'w hymdrech i werthu eu cynnyrch yn ystod y cyfyngiadau yn sgil haint coronaferiws.
Yn dilyn penderfyniad nifer iawn o wyliau, ffeiriau a sioeau i ohirio neu ganslo eu digwyddiadau dros yr haf roedd nifer o grefftwyr yn wynebu talcen caled.
Roedd ganddyn nhw stoc a oedd wedi cael ei baratoi'n arbennig, ond mae nifer o siopau a fyddai wedi gallu cymryd y cynnyrch hefyd unai ar gau neu ddim yn cymryd archebion newydd.
Yn dilyn llwyddiant digwyddiadau gwerthu ar wefan cymdeithasol Facebook mae trefnwyr yn dweud eu bod nhw'n bwriadu cynnal mwy dros yr wythnosau nesaf.
Ddydd Sadwrn, roedd dros 1,000 o ddefnyddwyr Facebook wedi gwneud cais i Fenter Caerdydd i gael mynediad i'w tudalen Crefftwyr Caerdydd a'r Fro.
Rhwng 10:00 a 15:00 roedd 20 o grefftwyr Cymraeg yn gwerthu neu hyrwyddo eu cynnyrchdrwy'r fforwm.
Yn ôl Catrin Cooke, Swyddog Busnes y fenter, roedd y ffair rithiol yn 'llwyddiant ysgubol': "Mae hwn wedi profi i ni bod cwsmeriaid eisiau bod yn rhan o rhywbeth sy'n digwydd yn fyw".
"Yn absenoldeb gwyliau ac yn y blaen rydyn ni wedi gweld bod pobl wedi mwynhau'r profiad o gymryd rhan mewn digwyddiad", meddai, "ac i mi mae'n profi bod modd cael y bwrlwm a'r momentwm hwnnw yn y byd digidol, ac yn y Gymraeg."
Rhoi llwyfan i fusnesau bach
"Fel swyddog busnes roeddwn yn awyddus i gefnogi cymaint o fusnesau bach a phosib, ac arbrawf oedd hwn mewn gwirionedd er mwyn rhoi platfform iddyn nhw", meddai.
"Ond nawr bod e wedi bod yn gymaint o lwyddiant fe fydden i'n hoffi bod ni'n trefnu un arall cyn bo hir, ac efallai cefnogi'r sector bwyd a diod hefyd".
Cafodd Menter Caerdydd y syniad yn dilyn ffair debyg gan griw o ardal Aberystwyth.
Mae ail ffair rithiol Crefftwyr Aberystwyth yn un o nifer a fydd yn cael eu cynnal ar Facebook y penwythnos nesaf
Ymhlith yr artistiaid yn ffair Crefftwyr Aberystwyth fydd Chwaethus, Rwth Jen, Marian Haf a Lois Jones.
"Fe nes i un ar fy mhen fy hun i ddechrau, ond yna cysylltodd y dylunydd gemwaith arall Vicky Jones a gofyn os fydden i'n hoffi neud un ar y cyd" meddai Anwen Jenkins sy'n creu darnau celf ffelt o dan yr enw 'ani-bendod'.
"Ethon ni ati i sgwennu rhestr o bwy oedd yn yr ardal ac fe gawson ni restr o 15 o stondinwyr, ac o'dd pawb yn awyddus.
"Mae e wedi bod yn brofiad fe'n reit od," meddai Anwen, sydd yn athrawes llawn amser hefyd, "achos, er bod dim byd yn digwydd yn gorfforol, mae e'n gyfle i bori a chwilio am bethe i rhywun ar gyfer achlysuron sydd yn dod lan 'da chi."
"Mae hwn wedi bod yn gyfle i werthu mewn steil gwahanol - a falle chwilio am gynulleidfa bach gwahanol.
"Wrth bod pob un o'r crefftwyr yn hyrwyddo'r digwyddiad rydyn ni wedi bod hyrwyddo gwaith ein gilydd ac yn cyrraedd cynulleidfa newydd, ac mae'r negeseuon rydyn ni wedi bod yn eu derbyn wedyn yn adlewyrchu hynny.
"Beth sydd wedi bod yn ganolog i hyn o gyd yw ei'n bod ni i gyd yn Gymry Cymraeg.
"Mae'n bwysig i ni bod pawb yn medru cyfathrebu'n y Gymraeg."
Denu sylw prynwyr newydd
Yn ogystal a derbyn archebion fe wnaeth y 15 crefftwraig gyfrannu eitem yr un i raffl, a gododd dros £1200 i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
"Doeddwn i ddim yn disgwyl gwerthu dim byd, a bod yn onest, ond yn gobeithio y byddai'r digwyddiad yn ymddwyn fel ffenestr siop i'r cynnyrch,"meddai'r ddylunwraig Elin Vaughan Crowley.
"Da ni wastad wedi hysbysebu ar-lein ond dwi'n teimlo weithiau bod pobl ddim yn chwilio, ac yn sydyn, oherwydd y ffair rithiol yma ma' pobl wedi dod ar ein traws ni."
"Dwi'n meddwl bod prynwyr wedi newid eu ffordd o siopa oherwydd hyn i gyd, a'u bod nhw'n awyddus i gefnogi rhywun lleol, a bod hyn yn ffocysu eu siopa achos bo nhw'n methu mynd i'r siopau.
"Beth wnaethon ni ddarganfod hefyd oedd bod pobl yn ei roi yn ei dyddiadur ac wedi dod aton ni i edrych a'n bod ni hefyd wedi ceisio denu prynwyr newydd gyda phrisiau gostyngol a ballu
"Ond i mi, y peth mwya ydy'r gymuned yma sydd ganddon ni nawr.
"Dwi erioed 'di cael neb i gynrychioli fi, a gan ein bod ni i gyd yn grefftwyr unigol mae'n neis nawr gwybod bod ganddon ni y grŵp bach yma fydde o bosib yn gallu cael ei ddatblygu, a gobeithio neith o gario ymlaen wedi hyn i gyd."