Cei Connah yn bencampwyr Cymru wrth i dymor ddod i ben

  • Cyhoeddwyd
Cei Conna yn erbyn Y Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, NCM Media
Disgrifiad o’r llun,

Cei Conna (yn y coch) oedd ar frig Uwch Gynghrair Cymru pan ddaeth y tymor i ben

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cadarnhau diwedd y tymor i gynghreiriau Cymru o lefelau 1-4 oherwydd pandemig Covid-19.

Cei Connah sydd wedi eu coroni'n bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf wedi i'r Gymdeithas ddod â'r tymor i ben.

Does dim gemau wedi eu chwarae ers i'r pandemig daro Cymru ddechrau mis Mawrth. Cafodd y safleoedd terfynol eu penderfynu drwy ddefnyddio system o bwyntiau am bob gêm a enillwyd.

Cei Connah oedd ar y brig ar y pryd - bedwar pwynt ar y blaen i'r Seintiau Newydd, pencampwyr 2018-19.

Y Bala sydd yn gorffen yn drydydd gan sicrhau eu lle yng Nghyngrair Europa gyda'r safleoedd terfynol y tymor yn cael eu penderfynu ar gyfartaledd pwyntiau.

Nid oes penderfyniad ynglyn â pha dimau fydd yn disgyn ac esgyn wedi ei wneud hyd yn hyn.

Airbus UK Brychdyn a Chaerfyrddin oedd y ddau glwb isaf yn Uwch Gynghrair Cymru cyn i'r tymor gael ei atal.

Mae cystadleuaeth Cwpan Cymru, oedd wedi cyrraedd y rownd gyn derfynol, hefyd wedi cael ei hatal am y tymor hwn.

Y Barri, orffennodd yn bedwerydd yn y tabl, fydd yn cymryd y safle yng Nghynghrair Europa sydd fel arfer yn cael ei roi i enillwyr y Gwpan.

Cadarnhawyd Prestatyn yn bencampwyr Cynghrair y Gogledd gyda Phrifysgol Aberatwe yn bencampwyr Cynghrair y De.

Abertawe yw Pencampwyr Uwch Gynghrair y merched ac yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Bwrdd cyfarwyddwyr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru benderfynodd ddod â tymor 2019-20 i ben gan gadarnhau penderfyniad pwllygor y gêm yn genedlaethol.

Bu'r Gymdeithas yn cynnal trafodaethau ar-lein gyda'r clybiau yr wythnos ddiwethaf gyda'r clybiau yn adrodd yn ôl.