ASau Cymru beirniadu cynllun i ddychwelyd i San Steffan
- Cyhoeddwyd
Mae ASau o Gymru wedi beirniadu cynlluniau i gael aelodau i ddychwelyd i San Steffan ar 2 Mehefin.
Bydd Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg yn annerch y tŷ ddydd Mercher ynglŷn â chynlluniau dadleuol i atal aelodau rhag dadlau a phleidleisio ar Zoom.
Dywedodd Mr Rees-Mogg ei fod eisiau i ASau "osod esiampl" i'r cyhoedd.
Ond yn ôl AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards, byddai'n "hollol boncyrs" pe bai hyn yn golygu y byddai ASau yn gwneud gwaith seneddol o swyddfeydd San Steffan y gellid ei wneud o gartref.
Mae ASau y gwrthbleidiau'n dweud y byddai hynny'n ei gwneud yn ofynnol i ASau Cymru fynd yn erbyn cyfyngiadau teithio Llywodraeth Cymru hefyd.
'Dim hyblygrwydd'
Dros yr wythnosau diwethaf mae ASau wedi gallu cymryd rhan mewn dadleuon trwy Zoom - a hyd yn oed pleidleisio o bell.
Nid oedd mwy na 50 o ASau yn cael eu caniatáu yn y Siambr ar yr un pryd er mwyn cydymffurfio gyda'r rheolau ar ymbellhau cymdeithasol.
Roedd y trefniadau amgen hyn wedi cael eu hymestyn nes 21 Mai, pan fydd y Senedd yn torri am wyliau'r Sulgwyn.
Ond ddydd Mercher mae disgwyl i Mr Rees-Mogg wfftio galwadau i ymestyn y gallu i ddadlau a phleidleisio o bell.
Y disgwyl yw y bydd Tŷ'r Cyffredin yn cydymffurfio â chanllawiau ymbellhau cymdeithasol Iechyd Cyhoeddus Lloegr, ac mai'r llefarydd fydd yn penderfynu faint o aelodau fydd yn cael bod yn y siambr ar unrhyw adeg.
Bydd ASau yn cael cymryd rhan mewn cwestiynau i'r gweinidog a chwestiynau brys trwy Zoom, ond byddai'n rhaid iddyn nhw fynd i San Steffan ar gyfer achos sylweddol fel trafod deddfwriaeth.
Ar 12 Mai dywedodd Mr Rees Mogg wrth Dŷ'r Cyffredin ei fod am i ASau "osod esiampl" i'r cyhoedd a dychwelyd i'r ffyrdd arferol o weithio cyn gynted â phosib.
"Nid oes gennym unrhyw hyblygrwydd o ran cwestiynau, dim gallu i bobl ddod i mewn, ymuno yn y ddadl, dim gallu i ddatblygu dadleuon na'u symud nhw ymlaen," meddai.
"Yn syml, cyfres o ddatganiadau wedi'u paratoi a wnaed un ar ôl y llall sydd gennym ni ar hyn o bryd.
"Nid dyna Dŷ'r Cyffredin yn cyflawni ei ddyletswydd briodol, ei rôl briodol yw craffu ar y llywodraeth."
'Rhoi staff mewn perygl'
Ond mae'r datganiadau hyn wedi denu beirniadaeth eang gan ASau y gwrthbleidiau yng Nghymru, lle mae rheoliadau cyfredol Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai pobl weithio gartref os yn bosib ac i beidio â theithio oni bai ei bod yn hanfodol.
Dywedodd Chris Elmore, AS Llafur dros Ogwr wrth BBC Cymru: "Fy mhryder yw bod gwleidyddion yn annog y cyhoedd i ddilyn y cyngor iechyd cyhoeddus.
"Yn amlwg, mae cyngor Llywodraeth Cymru yn wahanol i gyngor Llywodraeth y DU sydd yn ei hanfod ar gyfer Lloegr yn unig.
"Fy mhrif bryder yw bod y llywodraeth yn San Steffan yn rhoi staff Tŷ'r Cyffredin mewn perygl diangen, yn ogystal ag eraill sy'n gweithio o gwmpas yr ystâd."
Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, wrth BBC Cymru: "Fel aelodau seneddol sy'n cynrychioli etholwyr Cymru byddwn yn mynd yn uniongyrchol yn erbyn cyngor ein llywodraeth genedlaethol ein hunain.
"Rwy'n credu bod hynny'n gosod esiampl eithaf gwael i ni fel gweision cyhoeddus fod yn ei gosod.
"Y gwir amdani yw y bydd mwyafrif llethol yr ASau wedyn yn teithio i lawr i Lundain, gyda chost yn gysylltiedig â theithio a llety ac yna'n gwneud eu gweithgaredd seneddol pan ddaw'n amser cwestiynu o'u swyddfa yn Llundain pan allan nhw fod yn ei wneud gartref.
"Mae'n ymddangos yn hollol boncyrs i mi.
"Y peth gwaethaf oll yw eu bod am gael gwared â'r pleidleisio electronig, sydd yn fy marn i yn un o'r datblygiadau arloesol gwych a ddylai aros am byth.
"Gyda phellter cymdeithasol mewn golwg bydd hynny'n broses hirfaith, hirach gyda bylchau dau fetr rhwng pawb yn cerdded drwodd i bleidleisio. Nid yw treulio oriau ac oriau ac oriau'r dydd yn cerdded trwy ystafell i gofnodi'ch pleidlais yn ddefnydd arbennig o effeithlon o amser aelod etholedig."
Fodd bynnag, mae rhai ASau Ceidwadol wedi croesawu'r camau i fynnu bod mwy yn dychwelyd i'r tŷ er mwyn cymryd rhan mewn gweithdrefnau.
Dydy Mr Rees-Mogg ddim wedi ymateb i gais am sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2020