Plaid Cymru am weld Senedd cwbl ddigidol yn San Steffan
- Cyhoeddwyd
Dylai pob dadl yn Nhŷ'r Cyffredin gael ei gynnal ar-lein dan yr amgylchiadau presennol, yn ôl Plaid Cymru.
Er bod cyfyngiadau symud yn parhau yn y Deyrnas Unedig, fe fydd Aelodau Seneddol yn dychwelyd i'w gwaith ddydd Mawrth.
Bydd rhai ASau yn dychwelyd i San Steffan er mwyn cymryd rhan yn nadleuon y tŷ, ond bydd hyd at 120 yn cael y cyfle i ymuno ar-lein o'u cartrefi.
Yn ôl awdurdodau Tŷ'r Cyffredin, hwn yw'r "cam cyraeddadwy cyntaf tuag at greu Senedd rithiol."
Teithio o bell?
Ond mae AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards wedi dweud fod y sefyllfa yn golygu bod rhai ASau yn dal i orfod wynebu'r posibilrwydd o deithio o bell i Lundain.
Bydd y cynnig ar gyfer y Senedd rithiol yn cael ei roi gerbron Aelodau Seneddol yn y tŷ wrth iddyn nhw ddychwelyd o'u hegwyl estynedig dros y Pasg brynhawn Mawrth.
Y Cynulliad ym Mae Caerdydd oedd y Senedd gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymgynnull yn rhithiol, ym mis Mawrth, trwy gyswllt fideo Zoom.
Mae Comisiwn Tŷ'r Cyffredin wedi cytuno i ganiatáu hyd at 120 o ASau i gymryd rhan mewn dadleuon ar-lein, a chaniatáu hyd at 50 o aelodau i fynychu'r siambr tra'n parchu'r rheolau ymbellhau cymdeithasol - er bod y comisiwn yn dweud eu bod yn annog pawb i geisio gweithio ar-lein.
Yn ôl AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, mae ailddechrau'r trafod yn San Steffan yn "gam pwysig er mwyn sicrhau bod pryderon ein hetholwyr yn cael eu clywed a bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael eu galw i gyfrif."
Ond mae'n dweud ei fod yn siomedig y bydd yn rhaid i Aelodau Seneddol fynychu rhai dadleuon yn gorfforol.
"Nid yn unig mae'n ddiangen, ond gallai fod yn cau rhai pobl allan, gan y bydd ASau sydd ddim yn byw o gwmpas Llundain yn gorfod teithio er mwyn cyfrannu at rai dadleuon."
Yn ôl y comisiwn mae'r "model hybrid wedi ei ddatblygu ar frys ac wedi ei ddewis fel cam cyntaf cyraeddadwy tuag at Senedd rithiol - gyda'r fantais o gyfateb â'n capasiti technegol presennol."
Yn ôl yr AS dros Drefaldwyn, Craig Williams, mae'n "arbennig o bwysig bod y Senedd yn ailymgynnull" a bod ASau yn gallu dwyn y llywodraeth i gyfrif, beth bynnag eu plaid.
Mae'r cam wedi cael ei groesawu gan AS Llafur Dwyrain Casnewydd hefyd, Jessica Morden.
"Fe fydda i yn aros yn fy etholaeth er mwyn gweithio ac yn parhau i ddysgu fy mhlant o adref," meddai.
"Mae mesurau yn eu lle fel nad oes yn rhaid i chi fod yno, a dyna'n union y peth cywir i'w wneud."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Cwestiynau Cymru, ddydd Mercher, fydd y sesiwn rithiol gyntaf dan y drefn newydd, gydag Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart yn derbyn cwestiynau trwy gyswllt fideo gan ASau, er bod union drefn y sesiwn eto i'w gadarnhau.
Mae disgwyl i Lefarydd y Tŷ, Lindsay Hoyle, fynychu Tŷ'r Cyffredin ar gyfer y sesiwn ynghyd â rhai Aelodau Seneddol fydd yn gallu cyfathrebu â'u cyd-aelodau trwy nifer o sgriniau fydd wedi eu gosod o gwmpas y siambr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020