Mewnfudo ar ôl Brexit: Dim ystyriaeth i'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Mae awyr Heathrow, a'r gorsafoedd pasbortFfynhonnell y llun, PA Media

Dylai'r iaith Gymraeg hawlio'r un faint o bwyntiau a'r Saesneg dan y system fewnfudo newydd ar ôl Brexit, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae Comisiynydd y Gymraeg hefyd wedi galw ar y Swyddfa Gartref i "gydnabod y Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru" fel rhan o'r system newydd.

Fe ysgrifennodd Swyddfa'r Comisiynydd at y Swyddfa Gartref yn San Steffan nôl ym mis Chwefror yn gofyn iddyn nhw roi ystyriaeth i'r Gymraeg wrth ddynodi pwyntiau dan drefn fewnfudo'r dyfodol.

Saesneg, 'yr unig iaith genedlaethol'

Ond mewn ymateb i BBC Cymru, dywedodd y Swyddfa Gartref mai Saesneg oedd yr "iaith genedlaethol."

Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, ei fod yn "siomedig iawn nad yw'r Swyddfa Gartref yn cydnabod y Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru a'u bod yn cyfeirio at y Saesneg fel yr unig 'iaith genedlaethol'."

Yn ôl cynlluniau Llywodraeth San Steffan, byddai'r system fewnfudo newydd yn rhoi 10 pwynt i bobol am y gallu i siarad Saesneg - yn ogystal â phwyntiau ychwanegol am fod â chynnig swydd yn ei le gan gyflogwr cydnabyddedig, bod ag isafswm cyflog o £23,040, cyfrannu at swyddi lle'r oedd prinder gweithwyr, a lefel uwch o addysg berthnasol i'r gwaith.

Statws gyfartal y Gymraeg

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "pryderu" am gynigion y Swydddfa Gartref o ran y gofynion iaith.

"Dydyn nhw'n rhoi dim ystyriaeth i ieithoedd eraill y DU, dim ond Saesneg. Mae gan y Gymraeg yr un statws gyfreithiol a'r Saesneg yng Nghymru, ac ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol.

"Rydyn ni'n credu'n gryf y dylai sgiliau iaith Gymreg ddenu yr un pwyntiau â'r Saesneg. Bydd y Gweinidog dros y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gwneud y pwyntiau hyn i'r Swyddfa Gartref."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref ond heb gael ymateb hyd yma

Dywedodd Aled Roberts, y dylai'r Swyddfa Gartref fod yn parchu eu dyletswyddau dan y ddeddf iaith.

"Mae gan y Swyddfa Gartref hefyd Gynllun Iaith Gymraeg luniwyd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, sy'n cynnwys adran ar bolisïau a chynlluniau newydd," meddai.

"Nid ydym wedi derbyn ymateb i'n llythyr, dim ond cydnabyddiaeth o'i dderbyn, felly nid yw'n glir a ystyriwyd y cynllun iaith wrth lunio'r polisi mewnfudo.

"Byddwn yn ysgrifennu ymhellach at y Swyddfa Gartref i ofyn am ymateb i'n llythyr gwreiddiol ac eglurhad o'r sefyllfa. Rydym hefyd wedi trafod y mater gyda Swyddfa Cymru."