Galw ar Lywodraeth y DU i helpu sector awyrennau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Awyrennau British Airways
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddi 399 aelod o staff British Airways yng Nghymru dan fygythiad

Mae angen i lywodraeth y Deyrnas Unedig roi cymorth i'r diwydiant hedfan yng Nghymru ar "raddfa fawr" yn ôl Gweinidog yr Economi, Ken Skates.

Dywedodd Mr Skates mai dim ond nhw sydd â'r adnoddau i helpu sector sydd wedi cael ei tharo'n galed yn ystod cyfnod pandemig coronafeirws.

Daw hyn wrth i British Airways ddechrau proses ymgynghori ar 399 o ddiswyddiadau mewn tri safle yn ne Cymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.

Dywedodd Ken Skates: "Dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r adnoddau i allu ymyrryd ar raddfa mor fawr fel bod modd cefnogi cwmnïau fel Airbus a GE Aviation ac eraill sy'n cyflogi degau o filoedd o bobl."

Ychwanega: "Mae'r diwydiant hedfan yn wynebu cyfnod llwm ar hyn o bryd o ganlyniad i fod bron dim awyrennau yn yr awyr.

"Ac os ydy'r cwmnïau am ddod nôl yn gryf bydd angen cefnogaeth y llywodraeth arnyn nhw."

Roedd rhiant-gwmni BA wedi rhybuddio ei fod am dorri 12,000 o swyddi o'i weithlu o 42,000 o bobl oherwydd yr argyfwng.

Mae'r cwmni hedfan wedi cychwyn ymgynghoriad 45 diwrnod gyda gweithwyr.

Mae 399 aelod o staff dan fygythiad o gael eu diswyddo yng Nghymru allan o gyfanswm o 901.

Er y gallai diswyddiadau ddigwydd yn y tri safle sydd gan BA yn ne Cymru, mae'n bosibl y bydd y swyddi sy'n weddill i gyd wedi'u lleoli yn y cyfleuster cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates bod y sector yn wynebu cyfnod llwm yn sgil yr argyfwng coronafeirws

Byddai hynny'n gadael dyfodol ansicr i'r safleoedd yn Y Coed Duon a Llantrisant.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Aerospace Wales, John Whalley y gallai'r diwydiant awyrofod yng Nghymru golli "7,000 neu 8,000 o swyddi" oherwydd y pandemig coronafirws.

'Amddiffyn y gweithwyr'

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Dethol Materion Cymru, dywedodd "efallai na fydd y diwydiant byth yn gwella i'r lefelau a oedd gennym."

Galwodd llefarydd Economi Plaid Cymru, Helen Mary Jones, ar lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i "flaenoriaethu" cefnogaeth i weithwyr yn y diwydiant cwmnïau hedfan.

"Rhaid i Lywodraethau'r DU a Chymru ymateb i'r newyddion hyn trwy amddiffyn y gweithwyr hyn," meddai. "Nid eu bai nhw yw bod eu swyddi mewn perygl.

"Yn union fel mewn unrhyw ddiwydiannau eraill, mae angen i gefnogaeth i weithwyr sydd mewn perygl fod yn flaenoriaeth i'r diwydiant cwmnïau hedfan; ac mae angen gofyn cwestiynau pellach ynghylch sut mae cwmnïau yn sicrhau eu bod nhw yn Covid-proof. "