Economi'r DU yn crebachu wrth i gyfyngiadau Covid-19 daro
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth economi'r DU grebachu'n gyflymach nag unrhyw adeg yn y ddegawd ddiwethaf rhwng Ionawr a Mawrth eleni, yn ôl y ffigyrau swyddogol diweddaraf.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fod gwerth nwyddau a gwasanaethau wedi gostwng 2% dros y cyfnod.
Dyma'r ffigyrau cyntaf i gael eu cyhoeddi sy'n tanlinellu effaith y pandemig coronafeirws ar economi'r wlad.
Mae Canghellor Llywodraeth y DU, Rishi Sunak bellach wedi cydnabod ei bod hi'n "hynod o debygol" fod economi'r wlad "mewn dirwasgiad sylweddol".
Daw hynny wedi i Mr Sunak gyhoeddi y byddai'r cynllun saib o'r gwaith (furlough) yn parhau am bedwar mis arall.
Mwy o newyddion drwg i ddod?
Ar gyfer mis Mawrth - sy'n cynnwys dim ond dechrau'r cyfnod o gyfyngiadau coronafeirws - dangosodd ffigyrau'r ONS bod maint economi'r DU wedi gostwng 5.8%.
Mae'r argyfwng hefyd wedi taro masnachu byd-eang, gyda llai o nwyddau'n cael eu mewnforio ac allforio i China.
Y disgwyl ymhlith dadansoddwyr felly yw bod rhagor o newyddion economaidd drwg i ddod, wrth i ffigyrau'r cyfnod nesaf adlewyrchu cyfnod hirach o gyfyngiadau.
Fe wnaeth diwydiannau fel gwasanaethau ac adeiladu weld eu cwymp mwyaf erioed, tra bod sectorau fel gwerthiant ceir, addysg a bwytai hefyd wedi'u taro'n arbennig o wael.
Un o'r cwmnïau hynny yw Aston Martin, sy'n dweud eu bod wedi gwneud colled cyn treth o £119m yn nhri mis cyntaf 2020 - o'i gymharu gyda cholled o £17.3m yn yr un cyfnod llynedd.
Ond mae'r cwmni bellach wedi ailddechrau gwaith ar gar y DBX, sy'n cael ei gynhyrchu yn eu ffatri yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg.
Ddydd Mercher clywodd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan rybudd y gallai rhwng 7,000 a 8,000 o swyddi ddiflannu o'r diwydiant awyrofod yng Nghymru.
Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, awgrymodd prif swyddog gweithredol y corff sy'n cynrychioli'r sector, Aerospace Wales, John Whalley ei bod hi'n bosib "na allai'r diwydiant fyth ddychwelyd i'r lefelau blaenorol".
"Mae adferiad yn mynd i gymryd o leiaf tair blynedd, a mwy o lawer, o bosib," meddai, gan gyfeirio at ddadansoddiadau arbenigol yn darogan colli 30% o swyddi ar draws y DU.
"Os ydych chi'n ystyried hynny yng nghyd-destun 23,000 o bobl [maint y gweithlu] ar draws Cymru, mae 7,000 neu 8,000 o swyddi'n mynd i ddiflannu - dyna hyd a lled y sefyllfa, i fod yn blaen."
Mynegodd pryder fod Banc Datblygu Cymru "i bob pwrpas wedi rhedeg allan o arian" ar gyfer cefnogi'r sector busnes, er bod y cynllun hwnnw wedi llwyddo'n well na Benthyciadau Tarfu ar Fusnes Llywodraeth y DU.
Ddydd Mawrth fe wnaeth Mr Sunak gadarnhau y bydd y cynllun saib o'r gwaith presennol yn para nes mis Hydref.
Mae'n golygu bod gweithwyr yn parhau i allu derbyn 80% o'u cyflog, hyd at £2,500 y mis, os ydyn nhw i ffwrdd o'r gwaith ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd mae'r cynllun yn cynorthwyo 7.5 miliwn o bobl, ar gost o £14bn y mis - ond dywedodd Mr Sunak y gallai cyflogwyr orfod "rhannu" rhywfaint o'r baich erbyn mis Awst.
Ar yr adeg honno, fe allai'r cynllun hefyd gael ei wneud yn fwy hyblyg er mwyn galluogi pobl i ddychwelyd i'r gwaith yn rhan amser os oes modd.
Yng nghynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru ddydd Mercher dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates mai Cymru oedd â'r gyfradd uchaf o fusnesau yn gwneud cais am y cynllun.
"Mae'n hanfodol nad yw'r Cynllun Cadw Swyddi yn cael ei dynnu yn ôl yn rhy sydyn a chyn i fusnesau allu ailddechrau eu gwaith yn iawn," meddai.
'Dim cymorth i gwmnïau mewn llochesi treth'
Dywedodd Mr Skates y dylai Llywodraeth y DU gynnwys y llywodraethau datganoledig yn y trafodaethau ar sut i symud tuag at ran nesaf y cynllun, pan fydd gweithwyr yn dechrau dychwelyd.
Ychwanegodd na fyddai Llywodraeth Cymru'n cynnig cymorth i fusnesau er mwyn dod drwy'r pandemig os oedden nhw wedi'u cofrestru mewn llochesi treth.
"Dylai busnesau sydd ddim yn talu treth ddim elwa o'r camai mae'r llywodraeth yn ei wneud," meddai Mr Skates, gan ddweud ei fod yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn cymryd camau tebyg.
Mae pob rhan o'r DU yn parhau i fod dan gyfyngiadau oherwydd pandemig Covid-19, er bod rhai gwahaniaethau bellach rhwng beth sy'n cael ei ganiatáu ym mhob gwlad.
Y neges yng Nghymru o hyd yw i bobl aros adref oni bai fod rhaid, tra bod Lloegr bellach yn caniatáu i bobl deithio'n bellach o'u cartrefi ac yn annog mwy i ddychwelyd i'r gwaith os nad ydyn nhw'n gallu gweithio i adref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020