Galw am 'adferiad gwyrdd' i economi Cymru

  • Cyhoeddwyd
bywyd gwyllt

Mae un elusen bywyd gwyllt wedi awgrymu ffyrdd y gall Cymru ddod dros y pandemig coronafeirws a gwarchod yr amgylchedd ar yr un pryd.

Mae'r RSPB yn galw ar wleidyddion i ymrwymo i'w cynllun 'Adferiad Gwyrdd', gan ddweud y gallai fod o fudd i bobl Cymru, economi Cymru ac amgylchedd Cymru.

Mae'r cynllun a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yn cynnwys argymhellion y dylid peidio blaenoriaethu ffyrdd newydd, ond yn hytrach cynllunio o blaid trafnidiaeth gyhoeddus a datblygu band eang cyflym iawn fel bod llai o angen i bobl deithio.

Dywedodd cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-Jo Luxton mai "dyma'r amser i fynd am adferiad gwyrdd a fydd yn adfer natur, taclo newid hinsawdd a sicrhau lles y genhedlaeth hon a chenedlaethau i ddod".

Ychwanegodd: "Mae ymateb i Covid-19 a Brexit yn rhoi cyfle unigryw i Gymru wneud pethau'n wahanol.

"Rhaid i ni hepgor ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a diwydiannau niweidiol sy'n llygru, ac yn hytrach dewis cynllun sy'n hybu adferiad economaidd cynaliadwy sydd dda i natur ac i bobl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna gyfle unigryw i Gymru "wneud pethau'n wahanol", medd Katie-Jo Luxton

Mae'r RSPB hefyd yn cynnig y dylai Llywodraeth Cymru anelu at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero erbyn 2045, ac y dylen nhw ddeddfu er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd.

Galwodd yr elusen hefyd am ddeddfau cryfach i warchod yr amgylchedd, yn enwedig cynefinoedd fel coetiroedd, mawndiroedd a gweundiroedd, ac yn galw am glustnodi cyllid ychwanegol ar gyfer y gwaith o'u hadfer.

Rhan arall o gynnig yr RSPB yw diwygio polisïau amaeth, a dywedodd Ms Luxton: "Rydym angen sicrhau bod polisïau amaeth a rheoli tir yn rhoi gwerth am arian cyhoeddus ac yn cefnogi adferiad natur.

"Rydym am weld adfywiad cefn gwlad fel ei fod yn cwrdd ag anghenion pobl, ffermio, bwyd a'r amgylchedd am genedlaethau i ddod.

"Mae Cymru eisoes wedi arwain y byd drwy fod y genedl gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd, y senedd gyntaf i gynnwys datblygu cynaliadwy fel rhan o'i chyfansoddiad a chael ei hadnabod gan y Cenhedloedd Unedig am greu'r Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol.

"Roedd hefyd yn un o'r cenhedloedd cyntaf o gydnabod argyfwng natur a'r angen i adfer bioamrywiaeth.

"Rydym nawr yn gofyn i'n gwleidyddion i gymryd cam pwerus a phositif arall yn y cyfnod heriol yma ac ymrwymo i adferiad gwyrdd, a thrwy wneud hynny ysbrydoli pobl ar draws y byd."