Rhybudd am 'ergyd farwol' i sioeau amaethyddol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Y Sioe Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 250,000 o ymwelwyr yn mynychu'r Sioe Fawr ym mis Gorffennaf bob blwyddyn

Mae'n mynd i gymryd pum mlynedd i'r Sioe Frenhinol ddygymod ag effeithiau ariannol coronafeirws yn ôl cadeirydd bwrdd y sioe.

Wrth siarad â Newyddion BBC Cymru fe ddywedodd John Davies fod y Sioe Fawr ar ei cholled o "tua 1.2 miliwn o bunnoedd" o achos y feirws.

Mae 'na boeni hefyd y gallai'r pandemig fod yn ergyd farwol i sioeau amaethyddol llai ar lawr gwlad.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi comisiynu adolygiad annibynnol yn edrych ar ba gefnogaeth y gallen nhw ei gynnig.

I unrhyw un sy'n amaethu neu'n ymddiddori yn y maes, y Sioe Fawr yw un o ddigwyddiadau pwysica'r calendr.

Ond gyda thorfeydd o 250,000 o 40 o wahanol wledydd yn mynychu bob blwyddyn, dydi hi ddim yn fawr o syndod y bydd y prif gylch yn wag eleni.

"Ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar golledion yn y Sioe Frenhinol o dros filiwn, £1.2 miliwn," meddai Cadeirydd Bwrdd y Sioe, John Davies.

"Mae'n edrych yn debyg y bydd y golled yn ystod 2020 yn mynd nôl a ni o leia' pum mlynedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sioe Môn yn ystyried gwneud pethau'n wahanol pan fydd y Primin yn dychwelyd, meddai Peter Williams, Cadeirydd Sioe Môn

Pryderon tebyg sydd gan Sioe Môn.

Er ar raddfa lai, mae'r 'Primin' yn uchafbwynt enfawr i filoedd - ond yr un yw'r effaith yma hefyd.

"Cawsom flwyddyn ddrwg blwyddyn ddiwethaf gyda'r Equine flu felly da ni wedi colli lot o bres llynedd", meddai Cadeirydd Sioe Môn, Peter Williams.

"Mae hwn wedi hitio ni'n galed... mae angen rethink mawr. Pan fydd 'na sioe nesa bydd na lot o wahaniaeth, bydd rhaid gwneud pethau'n wahanol."

Effaith hirdymor

Sioe Meirionnydd yw'r unig sioe yng Nghymru sydd dal i deithio o safle i safle, cam sydd wedi bod yn fantais yn ystod cyfnod y feirws gan nad oes angen cynnal a chadw un safle parhaol.

Ond yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol y Sioe, Douglas Powell, pryder am ymwelwyr y dyfodol sy'n ei boeni.

"Faint ohonyn nhw fydd ddim yn dod allan ar ôl blwyddyn?"

"Mae'r profiad sydd gyno' ni; clwyd traed a'r gennau, y mater ariannol yn y ddegawd ddiwethaf, mae 'na nifer fawr wedi penderfynu peidio dangos," meddai.

"Os dy nhw ddim yn dangos eleni wrach fydd na nifer o rheini ddim efo ni yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

John Davies o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Mae nifer o sefydliadau a mudiadau nawr yn troi at Lywodraeth Cymru am gymorth.

Yn ôl John Davies o'r Sioe Frenhinol, fe ddylai'r Sioe Fawr dderbyn pecyn cymorth tebyg i'r hyn a welwyd i Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol gan Lywodraeth Cymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru yw dweud eu bod wedi comisiynu adolygiad annibynnol o sioeau amaethyddol Cymru yn edrych ar ba gefnogaeth sydd ei angen a sut mae adfer y sioeau i'r tymor nesa.

Mae disgwyl i'r Gweinidog Amaeth Lesley Griffiths ystyried yr adolygiad yn 'fuan'.

Yn ôl y Sioe Fawr, maen nhw'n dal i ystyried dyfodol y Ffair Aeaf.