Haeddu seibiant? Beth am driniaeth harddwch cartref?
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi bod yn gyfnod hir o dan glo, ac mae'n cyrff a'n meddyliau yn siŵr o fod yn teimlo'r straen.
Felly, dyma ambell i air o gyngor gan y therapydd cyfannol a harddwch o Lanrug, Lisa Jones, am sut i roi trît bach i'ch hunain, yn defnyddio beth sydd gennych chi adref.


Adweithdeg (reflexology) i'r dwylo
Bydd y pwynt adweithdeg yma yn helpu i leihau straen neu bryder a chreu teimlad o dawelwch a lles.
Mae pwynt y solar plexus mewn pant bach ychydig uwch na chanol cledr eich llaw.

Rhowch bwysau cymedrol i ddyfn am ychydig eiliadau wrth anadlu i mewn ac allan yn araf.
Ailadroddwch ar y llaw arall. Gallwch wneud hyn mor aml â sydd ei angen.

Masg wyneb afocado - ar gyfer croen arferol/aeddfed
Bydd y masg yma yn rhoi hwb i allu'r croen i gynhyrchu collagen naturiol, yn ogystal â hydradu'r croen.
Cynhwysion
1 afocado
1 moronen wedi ei thorri a'i berwi nes ei bod yn dyner
1/2 cwpan o hufen dwbl
2 lwy fwrdd o fêl
Mewn powlen cymysgwch gnawd yr afocado a'r foronen gyda'i gilydd, ac ychwanegwch y mêl. Unwaith fydd popeth wedi ei gymysgu, ychwanegwch yr hufen yn araf tan i chi gyrraedd trwch fydd yn aros ar y wyneb.
Golchwch a sychwch eich wyneb. Mae angen taenu'r masg ar y wyneb yn ofalus gan osgoi'r llygaid a'r gwefusau. Ymlaciwch am 15 munud, yna'i dynnu i ffwrdd gan ddefnyddio lliain wyneb a dŵr cynnes, yna sychu'r wyneb yn drwyadl.
(Os nad oes gennych chi afocado, gallwch gymysgu 1 banana, 1 llwy fwrdd o fêl ac 1 llwy fwrdd o sudd lemwn i greu masg wyneb sydd hefyd yn addas ar gyfer croen arferol/aeddfed.)

Sgrwb traed cnau coco a leim
Bydd y driniaeth yma yn gadael eich traed yn llyfn ac yn teimlo'n ffres.
Cynhwysion
4 llwy fwrdd o siwgr
2 lwy fwrdd o olew cnau coco
Sudd a chroen 1 leim
1 leim wedi ei dorri
Cymysgwch yr holl gynhwysion mewn powlen a'u gosod i un ochr.

Dewiswch bowlen/twb sy'n ddigon mawr i ffitio'r ddwy droed, gyda 'chydig o le i'w sbario. Ychwanegwch ddŵr cynnes iddo (byddwch yn ofalus i beidio llosgi) a'r sleisys o leim.
Sociwch eich traed am bum munud.
Tynnwch un droed allan a'i dylino (massage) gyda'r sgrwb am ychydig funudau, gan roi sylw arbennig i fannau sych ac osgoi unrhyw glwyfau agored. Yna rhowch y droed yn ôl yn y dŵr ac ailadrodd gyda'r droed arall.
Golchwch y sgrwb i ffwrdd yn y dŵr a sychu eich traed gyda thywel glân.

Sgrwb corff sitrws
Mae hwn yn sgrwb exfoliator naturiol i'r corff sy'n llawn fitamin C, a fydd yn cael gwared ar groen sych a gadael y croen yn edrych yn llyfn a llachar.
Cynhwysion
3 chwpan o siwgr (gwyn neu frown)
3/4 cwpan o olew coco, almwn neu olewydd (olive)
Sudd o 1 lemwn
Croen 2 lemwn
Cymysgwch yr holl gynhwysion mewn powlen. Gall hwn gael ei gadw am wythnos mewn cynhwysydd gyda chaead.
Rhowch dywel glân ar y llawr (gwell gwneud hyn yn yr ystafell 'molchi), gwlychwch eich dwylo a thylino'r sgrwb ar hyd y corff, gan roi sylw arbennig i unrhyw fannau sy'n sych ofnadwy gan symud eich dwylo mewn siâp cylch.
Mae faint ydych chi'n ei wasgu yn dibynnu ar beth sy'n addas i chi - er enghraifft, byddwch yn fwy tyner os oes gennych chi groen sensitif.
Ewch i mewn i'r gawod a thylino ychydig mwy cyn ei olchi i gyd i ffwrdd (byddwch yn ofalus - gall yr olew achosi arwynebau llithrig), a sychu gyda thywel glân.

Tylino pen Indiaidd
Mae hwn yn berffaith i unrhyw un sy'n teimlo straen neu'n dioddef gyda chur pen. Gallwch wneud hyn i chi'ch hun neu i berson arall yn y cartref.
Eisteddwch i lawr yn gyfforddus a chau eich llygaid, a chymerwch dri anadl dwfn cyn cychwyn.
Gan ddefnyddio'r ddwy law, defnyddiwch flaenau dau fys i rwbio bob ochr i'ch talcen (temple) mewn symudiad cylch ysgafn, am un munud.
Wedyn wrth ddefnyddio'r ddwy law eto, defnyddiwch y bysedd i gyd i dylino croen y pen mewn cylchoedd, gan ddechrau yn y tu blaen a gweithio eich ffordd o amgylch y pen am ddau funud.
Gorffennwch drwy ddefnyddio'r bysedd i gribo o linell y gwallt i lawr tuag at gefn y pen. Ailadroddwch hyn 10 gwaith. Cymerwch dri anadl dyfn i orffen.

Masg wyneb ceirch - ar gyfer croen sych/sensitif

Dyma sut ddylai'r masg uwd edrych
Mae'r masg yma'n berffaith i leddfu unrhyw fannau sych neu boenus ar y croen.
Cynhwysion
1 llwy fwrdd o fêl
2 llwy fwrdd o iogwrt naturiol
2 lwy fwrdd o geirch (wedi ei falu'n bowdr)
Cymysgwch yr holl gynhwysion mewn powlen.
Golchwch a sychwch eich wyneb. Mae angen taenu'r masg ar y wyneb yn ofalus gan osgoi'r llygaid a'r gwefusau. Ymlaciwch am 15 munud, yna'i dynnu i ffwrdd gan ddefnyddio lliain wyneb a dŵr cynnes, yna sychu'r wyneb yn drwyadl.
Hefyd o ddiddordeb: