Covid-19: Ymestyn cytundeb ysbyty maes Stadiwm Principality

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, wedi cadarnhau y bydd cytundeb ysbyty maes Stadiwm Principality yn para tan yr hydref.

Cafodd Ysbyty'r Ddraig yng Nghaerdydd ei sefydlu er mwyn lleddfu'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Roedd y cytundeb gwreiddiol mewn grym tan 10 Gorffennaf ond mae e bellach wedi'i ymestyn tan o leiaf fis Medi.

Cafodd cleifion cyntaf yr ysbyty, sydd â 1,500 o welyau, eu derbyn ar 29 Ebrill.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn rhentu'r stadiwm i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac mae'r ysbyty wedi ei sefydlu er mwyn lleddfu pwysau ar ysbyty mwyaf Cymru, Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Disgrifiad,

Agor 'Ysbyty Calon y Ddraig' yn Stadiwm Principality

Wedi trafodaethau rhwng yr Undeb, Y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru nid oes dyddiad terfynol pendant wedi ei osod yn y cytundeb newydd.

"Fe wnaethon ni gytuno gyda'r Gwasanaeth Iechyd a Llywodraeth Cymru y byddai'r cytundeb yn cael ei ymestyn tan yn gynnar yn yr hydref," meddai Gareth Davies.

"Ry' ni eto i gytuno ar yr union fanylion."

Ychwanegodd Davies os byddai galw am yr ysbyty maes yn ddiweddarach yn y flwyddyn, yna ni fyddai'n bosib cynnal gemau rygbi yno ac y byddai rhaid ystyried meysydd eraill.

Mae Cymru fod i groesawu Seland Newydd, De Affrica, Fiji a'r Ariannin ym mis Tachwedd ac mae'n bosib y bydd y gemau hynny tu ôl i ddrysau caeedig.