Lansio menter amgylcheddol i gofnodi cyfnod coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Llyn Padarn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fenter yn gobeithio sefydlu canolfan yng Nglyn Rhonwy ger Llanberis, cartref Llyn Peris

Mae menter amgylcheddol, sy'n bwriadu cofnodi profiadau pobl o fyw drwy gyfnod o gyfyngiadau'r coronafeirws, yn cael ei lansio ddydd Gwener.

Mae Earth Project-Live, sy'n rhan o gynllun ehangach Prosiect y Ddaear, yn gobeithio dod â chymunedau lleol a rhyngwladol o arbenigwyr, artistiaid a gwyddonwyr at ei gilydd.

Mae'n fwriad hefyd cynllunio i ddatrys rhai o heriau amgylcheddol mwyaf y blaned.

Mae'r fenter yn canolbwyntio ar geisio casglu argraffiadau pobl o sut y mae'r pandemig a chyfyngiadau byd-eang wedi effeithio ar natur, llygredd, defnydd o ynni a thraffig.

Mae'r cynllun eisoes wedi sicrhau cefnogaeth prifysgolion ar draws y DU yn ogystal â chynrychiolwyr byd busnes ac arbenigwyr amgylcheddol.

Disgrifiad o’r llun,

Carys Owen o Earth Project-Live

Mae Earth Project-Live yn gofyn i bobl fwydo eu canfyddiadau gan gynnwys lluniau a sain o'r amgylchedd yn ystod y cyfnod clo hwn i fas data newydd ar-lein.

Dywedodd Ashley Rogers sy'n gyfarwyddwr ar Brosiect y Ddaear: "Mae hwn yn gynllun hynod o gyffrous, ac yn un sydd ag angen amdano wrth i ni geisio datgarboneiddio a rheoli adnoddau prin y byd mewn ffordd gynaliadwy.

"Bydd y cam cyntaf hwn yn gyfle i ni gyd ddeall sut mae ein hamgylchedd wedi cael ei effeithio gan y cyfnod clo - yma yng Nghymru a dros y byd. Mae hefyd yn siawns i ni gael dweud ein dweud ar y mater."

Sefydlu canolfan

Bydd y prosiect yn cynnwys rhaglen ar gyfer ysgolion maes o law a melin drafod fydd yn dod â'r cyhoedd, academyddion, artistiaid a byd busnesau ynghyd.

Mae'r fenter yn gobeithio sefydlu canolfan yng Nglyn Rhonwy ger Llanberis yn y tair i bum mlynedd nesaf.

"Canolfan fel think tank mewn ffordd," meddai Carys Owen o Earth Project-Live wrth BBC Cymru Fyw.

"Canolfan lle fedran ni ddŵad a data at ei gilydd a defnyddio virtual reality i ddangos be ydy effaith y dewisiadau 'dan ni'n ei wneud a be' ydy'r effaith pan 'dan ni ddim yn gwneud dewisiadau."

Mae'r fenter wedi derbyn cefnogaeth gan nifer o wleidyddion lleol, yn ogystal â Phrif Weithredwr Twristiaeth Gogledd Cymru, sydd wedi dweud y "byddai'n wych i ddenu canolfan Prosiect y Ddaear i ogledd Cymru, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd y cynllun yn fyd eang".

"Fe fyddai canolfan ymwelwyr yn ychwanegiad arbennig i'n hatyniadau ni yma yn y gogledd," meddai.