Dyn yn marw ar ôl mynd i drafferthion yn Llyn Tegid
- Cyhoeddwyd

Y gwasanaethau brys ar lannau Llyn Tegid wedi'r digwyddiad
Dywed Heddlu'r Gogledd bod dyn wedi marw yn yr ysbyty wedi iddo fynd i drafferthion yn Llyn Tegid, Y Bala brynhawn Iau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 16:50.
Cafodd y dyn, a gredir o fod yn dod o'r gogledd, ei dynnu o'r dŵr a'i gludo i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans awyr.
Dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am y digwyddiad.