Arestio dyn o Gaerffili ar amheuaeth o geisio llofruddio

  • Cyhoeddwyd
ail

Mae dyn 23 oed o ardal Caerffili wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn digwyddiad ar dir Castell Caerffili.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw nos Iau yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi cael ei drywanu yn ei stumog.

Aed ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr sefydlog.

Cafodd dyn 30 oed o ardal Deri hefyd driniaeth am yn y fan a'r lle am anafiadau arwynebol.

Apelio am dystion

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Leigh Holborn: "Yn dilyn ein hapêl am wybodaeth, fe wnaethon ni arestio dyn 23 oed o Gaerffili yr ydym yn credu sydd wedi dioddef anafiadau i'w glust, ei wyneb a'i goes yn ddiweddar."

"Mae gennym reswm i gredu y gallai'r anafiadau hyn fod wedi cael eu hachosi yn ystod y digwyddiad yng Nghastell Caerffili ac aethpwyd ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru o dan ofalaeth yr heddlu.

"Mae wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac o achosi niwed corfforol difrifol."

Mae'r heddlu yn apelio am unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad i gysylltu â nhw.