'Diffyg cyfiawnder i ddioddefwyr iechyd meddwl'
- Cyhoeddwyd
Mae cleifion iechyd meddwl yn teimlo nad ydyn nhw'n cael cyfle teg i herio cael eu cadw yn yr ysbyty oherwydd penderfyniadau yn ymwneud a'r cyfyngiadau presennol, yn ôl elusen.
Mae gan unigolion sydd yn wynebu gorchymyn i'w cadw o dan glo yr hawl i adolygiad gan dribiwnlys dan arweiniad barnwr.
Ond nid yw paneli yng Nghymru yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar hyn o bryd oherwydd Covid-19, a dywedodd Mind Cymru fod hyn wedi gorfodi rhai cleifion i dynnu'n ôl o'r broses.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r trefniadau'n cael eu hadolygu.
"Mae rhwystro rhyddid unigolyn yn fater difrifol, ac mae'n ymddangos nad yw cleifion yn teimlo y byddan nhw'n cael tegwch ac yn tynnu eu cais yn ôl," meddai pennaeth tîm cyfreithiol Mind, Rheian Davies.
Gellir dal claf yn yr ysbyty o dan gyfreithiau iechyd meddwl os yw ei ddiogelwch neu ddiogelwch rhywun arall mewn perygl, neu os oes angen ei asesu neu fod angen triniaeth.
Mae pryderon wedi cynyddu ymhellach ers i newidiadau i reolau iechyd meddwl gael eu cyflwyno gan ddeddfwriaeth coronafeirws brys ym mis Mawrth.
'Anodd dehongli cyflwr unigolyn'
Bellach mae'n golygu mai dim ond un meddyg yn hytrach na dau sydd angen cymeradwyo'r penderfyniad i gadw claf yn yr ysbyty.
Dywedodd arbenigwr cyfreithiol Mind eu bod hefyd wedi cael gwybod bod "nifer o gleifion sy'n cael eu cadw" yn cael anawsterau wrth gyfathrebu â'u cyfreithwyr mewn gwrandawiadau o bell.
"Rydyn ni'n mynd i fyw gyda phellter cymdeithasol am gyfnod hir eto," ychwanegodd Ms Davies.
"Rydym yn galw ar ysbytai, y tribiwnlys a chyfreithwyr i weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod gan gleifion fynediad priodol i'r llysoedd a threial teg y mae'n ofynnol iddynt yn gyfreithiol ei gael."
Dywedodd yr elusen nad oedd yn gallu rhoi ffigwr ar nifer yr unigolion y mae'r cyfyngiadau wedi effeithio arnyn nhw, ond mae'r mater hefyd wedi cael sylw gan Gymdeithas y Gyfraith, sy'n cynrychioli cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr.
Fe roddon nhw dystiolaeth i ymgynghoriad brys ar y pandemig a alwyd gan y Cyngor Cyfiawnder Sifil, corff llywodraeth y DU sydd yn cynghori'r Arglwydd Ganghellor a'r farnwriaeth ar faterion cyfreithiol sifil.
Rhybuddiodd y gymdeithas nad yw tribiwnlysoedd iechyd meddwl "yn gyffredinol yn addas ar gyfer gwrandawiadau o bell, gan ei bod yn anodd iawn dehongli cyflwr corfforol a meddyliol unigolyn o bell".
"Mae hyn yn gwaethygu os nad yw rhai gweithwyr proffesiynol hefyd yn gallu archwilio'r unigolyn oherwydd pellter cymdeithasol," ychwanegodd Cymdeithas y Gyfraith.
'Rhaid addasu'
Dywedodd y corff proffesiynol fod y gwrandawiadau yng Nghymru hyd yn oed yn fwy cymhleth, gan fod penderfyniad wedi'i wneud i gynnal pob adolygiad tribiwnlys ar y ffôn yn unig, yn hytrach na drwy gyswllt fideo.
Ychwanegodd Cymdeithas y Gyfraith ei bod yn ymddangos bod y penderfyniad wedi ei weithredu er mwyn sicrhau mynediad teg i bob claf, gan nad oedd gan rai unedau iechyd meddwl fynediad at dechnoleg ddigonol na chysylltiadau band eang.
"Mae'n hanfodol bod llysoedd yn gallu ailagor unwaith y bydd hi'n ddiogel gwneud hynny," meddai'r gymdeithas.
Rôl y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl yng Nghymru yw un o'r prin feysydd cyfiawnder cyfyngedig sydd wedi cael ei ddatganoli i Gymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y diogelwch cyfreithiol pwysig a ddarperir gan Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, a bod y pandemig "wedi cyflwyno heriau digynsail i sicrhau bod pobl yn parhau i gael mynediad at gyfiawnder".
"Bu'n rhaid addasu fel gwrandawiadau ffôn i alluogi'r Tribiwnlys i barhau i weithredu'n ddiogel ym mhob achos ac i gydymffurfio â phellter cymdeithasol," meddai.
"Byddwn yn adolygu'r trefniadau hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2020
- Cyhoeddwyd12 Mai 2020
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020