Coronafeirws: Cyfyngiadau'n niweidio iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
iechyd meddwlFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae cadw pellter cymdeithasol oherwydd Covid-19 yn cael "effaith sylweddol" ar iechyd meddwl y boblogaeth yn barod.

Cynhaliodd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Manceinion grwpiau ffocws ar-lein er mwyn archwilio eu barn a'u profiadau yn ystod cyfnod cynnar y cyfyngiadau symud.

Hyd yn oed ar ôl cyn lleied â phythefnos, roedd colli'r cyfle i ryngweithio'n gymdeithasol yn peri problemau i bobl.

Yn ôl arweinydd yr ymchwil, Dr Simon Williams, mae'r cyhoedd yn gwneud ymdrech arbennig i atal lled y feirws, ond bod hyn yn cael effaith fawr.

"Yn ôl ein hastudiaeth, mae llawer o bobl yn dilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, ond mae hynny'n cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles pobl - yn enwedig y rhai sy'n ennill cyflogau isel neu sydd â swyddi ansicr," meddai.

"Un o'r pethau sydd wedi rhoi'r straen fwyaf ar bobl yw'r ffaith nad ydyn nhw'n gwybod am faint y bydd y cyfyngiadau symud yn para.

"Mae angen ymateb yn gyflym o ran rhaglenni iechyd cyhoeddus er mwyn lliniaru'r effeithiau hyn ar iechyd meddwl.

"Drwy aros tan y bydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol ac ynysu yn cael eu llacio neu'n dod i ben cyn cynnig cymorth, gallai'r effaith ar iechyd meddwl fod yn andwyol ac yn barhaol, yn enwedig ymysg y rhai sydd eisoes yn ddiamddiffyn yn gymdeithasol ac yn economaidd."

Ffynhonnell y llun, Creative Commons
Disgrifiad o’r llun,

Bu ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn gweithio ar y prosiect

Yn ôl Gemma Parry, sydd wedi dioddef o gorbryder ers blynyddoedd, mae ei hiechyd meddwl wedi dirywio yn sylweddol ers i ymbellhau cymdeithasol ddechrau.

"Dydw i ddim yn gallu ymdopi gyda fe o gwbl," meddai. "Pryd nad oeddem ni yn yr amser yma, roeddwn i dipyn yn well yn ymdopi gyda phethau.

"Dwi ar feddyginiaethau ta beth ac mae e wir yn helpu rheoleiddio fy hwyliau a chadw fy ngorbryder i lawr.

"Ond pan ddechreuodd Covid-19 i ddigwydd, hyd yn oed pryd oedd e'n digwydd yn Wuhan roeddwn i'n poeni ac roedd hynny nôl ym mis Rhagfyr ac erbyn hyn mae e yn y bôn wedi cymryd dros fy mywyd ac mae e mor anodd. Does 'na ddim ffordd i mi ei esbonio i ti yn iawn.

"Rwy'n teimlo... mor bryderus fy mod i'n crynu, neu methu anadlu, neu mod i methu a cherdded tu fas y drws ffrynt."

'Dod o hyd i bwrpas'

Dr Simon Williams sy'n arwain yr astudiaeth mewn cydweithrediad â Dr Kimberly Dienes a'r Athro Christopher Armitage o Ganolfan Seicoleg Iechyd Prifysgol Manceinion, a Dr Tova Tampe, ymgynghorydd annibynnol yn Sefydliad Iechyd y Byd.

Fe wnaethon nhw gynnal grwpiau ffocws ar-lein gydag oedolion oedd yn cynrychioli ystod eang o gefndiroedd.

Ar ôl cyn lleied â phythefnos, roedd colli'r cyfle i ryngweithio'n gymdeithasol yn peri problemau i bobl.

Ond mae yna arwydd yn yr adroddiad hefyd, bod rhai pobl yn llwyddo i ddefnyddio'r sefyllfa fel cyfle i ail-gysylltu gyda'u teuluoedd a chymdogion hefyd.

Dywedodd Dr Kimberley Dienes: "Ni'n galw e'n hunan ynysu, ond yn aml, rydyn ni'n hunan ynysu gyda'r bobl sy'n agosach i ni. Ac mae nifer o grwpiau yn cael eu sefydlu ar-lein hefyd lle mae pobl yn cysylltu mewn nifer o ffyrdd na maen nhw erioed wedi gwneud.

"Rwy'n credu bod rhai pobl yn darganfod bod rhyw fath o gysylltedd pellach yn gwneud daioni iddyn nhw, ac rwy'n credu y gall hynny bod o les mawr i bobl a gallen nhw ddod o hyd i bwrpas cadarnhaol mewn hynny o beth."