Fferm laeth deuluol yn gwerthu'n uniongyrchol i gwsmeriaid
- Cyhoeddwyd
Mae fferm laeth deuluol yng ngogledd Sir Benfro wedi penderfynu dechrau gwerthu eu llaeth yn uniongyrchol i gwsmeriaid.
Cymysgedd o wartheg byrgorn a Holstein sydd ar fferm Clos yn Rhoshill, ac mae'r teulu hefyd yn rhedeg dwy siop leol.
Fe fydd y llaeth sydd yn cael ei basteureiddio yn cael ei werthu yn siopau Glandy Cross a JK Lewis, Crymych, sydd yn eiddo i'r teulu.
Yn ystod yr argyfwng coronafeirws, mae gwaith ymchwil Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) yn dweud fod tua 50% o ffermydd llaeth Cymru wedi cael eu heffeithio yn sylweddol gan Covid-19.
Mae 58% wedi gweld prisiau yn syrthio a 45% wedi cael cais i leihau faint o laeth maen nhw'n ei gynhyrchu.
Yn ôl Ifan James, sydd yn rheoli'r fuches, dyma'r amser delfrydol i fentro a gwerthu llaeth y fferm i'r cyhoedd.
"Roedd dwy ffordd o edrych ar bethau. Naill a'i mynd o odro 70 o dda a chasio'r niferoedd neu treial adio value i'r llaeth," meddai Mr James.
"Ni bydd yn penderfynu pa bris i gael am y llaeth lle bod rhywun arall yn rheoli.
"Dwi'n meddwl gyda'r coronafeirws mae pethau wedi mynd 'nôl fel oedden nhw. Pobl yn prynu llysiau a llaeth o'r ffarm. Mae e fel petai wedi gwasgu reset ar bopeth."
Lleiafrif bach o ffermydd sydd ar hyn o bryd naill a'i yn gwerthu llaeth amrwd (raw milk) neu laeth maen nhw wedi ei brosesu.
Ond yn ôl Gareth Richards, cyn-lywydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru, mae'r nifer ar gynnydd.
"Mae mwy o bobl yn edrych at dynnu pobl i brynu'r ffarm, gosod vending machines neu sefydlu rowndiau llaeth eu hunain," meddai Mr Richards.
"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae pawb wedi bod yn fwy parod i brynu o'r archfarchnad. Fel mae pobl yn siarad, mae'n edrych fel 'se fe yn cynyddu a chael mwy o fomentwm.
"Roedd un MP wedi dweud nad oedd angen i Brydain gynhyrchu bwyd, ond fedrwch chi ddim bwyta papur! Mae angen buddsoddi a helpu bwyd lleol."
Mae'r mwyafrif helaeth o laeth yfed Cymru yn cael ei brosesu dros Glawdd Offa yn Lloegr, ond yn achos Llaeth Clos, taith o chwe milltir fydd gan y llaeth o'r ffarm i'r siop yn Efailwen.
Yn ôl Carwyn James, sydd yn rhedeg y ddwy siop yn Efailwen a Chrymych, y bwriad yw manteisio ar y sylw presennol ar gynnyrch lleol.
"Ni'n treial tapo mewn i'r syniad o gefnogi ein gilydd ac os gewn ni'r cynnyrch yn iawn, falle fyddan nhw yn cefnogi'r fenter," meddai Mr James.
"Ffarm fach deuluol ydyn ni. Ni'n ceisio cynyddu gwerth ein cynnyrch. Ni'n gorfod mentro a chymryd y dyfodol i'n dwylo ein hunain."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2020
- Cyhoeddwyd9 Mai 2020
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2020