Cymorth i'r ffermwyr llaeth sydd wedi'u taro waethaf

  • Cyhoeddwyd
BuwchFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cymorth yn cael ei roi i'r ffermwyr llaeth sydd wedi cael eu taro waethaf gan yr argyfwng coronafeirws.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths mai ffermwyr llaeth sydd wedi colli mwy na 25% o'u hincwm ym misoedd Ebrill a Mai fydd yn gymwys am y cynllun.

Bydd y ffermwyr hynny yn gallu hawlio hyd at £10,000 i dalu 70% o'r incwm maen nhw wedi'i golli.

Dywedodd y gweinidog mai'r nod yw "sicrhau y gallant barhau i weithredu heb gael effaith ar les anifeiliaid a'r amgylchedd".

Roedd y sector llaeth yn un o'r cyntaf i deimlo effaith y pandemig, wrth i fwytai a chaffis orfod cau yn sgil y cyfyngiadau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd rhagor o fanylion am y cynllun yn cael ei gyhoeddi'n fuan.

Cafodd cynllun tebyg ei lansio yn Lloegr ddydd Mercher.

'Rhywfaint o sefydlogrwydd'

Dywedodd Ms Griffiths: "Mae cau y sector gwasanaethau bwyd wedi cael effaith sylweddol ar unwaith ar ein sector llaeth a phrisiau y farchnad.

"Bydd y mesurau sydd wedi'u cyflwyno hyd yma yn help i roi rhywfaint o sefydlogrwydd i'r sector llaeth, ond rwy'n cydnabod bod angen cefnogi'r ffermydd hynny sydd wedi dioddef waethaf mewn sefyllfa sydd y tu hwnt i'w rheolaeth.

"Dwi felly yn falch o gadarnhau y bydd ffermwyr llaeth yng Nghymru yn gymwys am gymorth i helpu iddynt addasu i'r amodau eithriadol yn y farchnad, ac i sicrhau y gallant barhau i weithredu heb iddo gael effaith ar les anifeiliaid a'r amgylchedd

"Byddwn yn parhau i weithio'n galed â'r sector i helpu iddynt fynd i'r afael â'r problemau y maent yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er i archfarchnadoedd weld cynnydd mewn gwerthiant, mae ffermwyr sy'n cyflenwi caffis a bwytai ar eu colled

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion gwledig, Andrew RT Davies fod y cyhoeddiad yn "well hwyr na hwyrach".

"Er hynny, mae diffyg manylion yn y cyhoeddiad - mae'n achos arall o Lywodraeth Lafur Cymru'n rhyddhau datganiad yn y gobaith y bydd hynny'n rhoi cyfle iddyn nhw weithio ar gynllun," meddai.

Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar y pwnc, Llyr Gruffydd bod Llywodraeth Cymru wedi "llusgo'i thraed" cyn cyhoeddi'r cymorth.

"Pan wnes i bwyso ar Lesley Griffiths ar yr angen am gefnogaeth mewn pwyllgor y Senedd ddydd Iau dywedodd bod ei hadran wedi bod yn gweithio ar gynigion ers wythnosau," meddai.

"Ond fe gymrodd gyhoeddiad yn Lloegr iddi weithredu. Mae'r cynllun mae hi wedi'i fabwysiadu hefyd yn gopi llwyr o'r un gan DEFRA."