'Angen pwyllo wrth godi cyfyngiadau Covid-19 yn raddol'

  • Cyhoeddwyd
Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething wedi canmol y GIG am fod yn barod i arloesi yn ystod yr argyfwng

Mae'n rhaid i'r GIG fod yn barod ar gyfer unrhyw gynnydd mewn achosion coronafeirws yn y dyfodol, a symud yn "araf a phwyllog" wrth gynllunio'r camau nesaf i ddychwelyd i fywyd arferol eto, meddai Gweinidog Iechyd Cymru.

Mewn datganiad i'r Senedd dywedodd Vaughan Gething fod cynlluniau manwl mewn lle ar draws byrddau iechyd Cymru ar gyfer cynyddu gweithgareddau hanfodol yn raddol tra'n parhau i wylio effaith y feirws.

Roedd nifer y marwolaethau dyddiol o'r haint wedi gostwng i ffigyrau sengl ddydd Llun yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru - cyn i 17 o farwolaethau gael eu cofnodi ddydd Mawrth.

Dywedodd fod pob bwrdd iechyd wedi datblygu cynlluniau fydd yn parhau tan 1 Gorffennaf, sy'n amlinellu ffyrdd newydd o gyflenwi gofal mewn meysydd fel canser, y galon, y llygaid, a gwasanaethau eraill.

Rhannu ysbytai

Mae'r cynlluniau'n cynnwys rhannu ysbytai i adrannau risg uchel a risg isel Covid-19 i geisio gwella diogelwch cleifion.

Mae gwelyau ychwanegol mewn ysbytai preifat wedi bod o gymorth, meddai Mr Gething, ond dywedodd bod angen adolygu eu defnydd i'r dyfodol.

Mae'r ffaith nad yw'r GIG wedi gorfod gwneud defnydd helaeth o ysbytai maes yn ystod ton gyntaf yr achosion yn rhywbeth positif, meddai, ond mae adolygiad ar y gweill ar sut i wneud y defnydd gorau ohonynt wrth symud ymlaen.

Ysbytai maes yn ganolfannau adfer

Mae £166m wedi cael ei wario ar sefydlu'r 19 o ysbytai maes ar draws y wlad, oherwydd pryderon y byddai'r feirws yn gorlwytho'r gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Prif Weithredwr y GIG yng Nghymru, Andrew Goodall, bod byrddau iechyd eisoes yn ystyried eu defnyddio fel canolfannau i adfer iechyd cleifion Covid-19 a chleifion oedd yn dioddef o anhwylderau eraill.

Ond mynnodd ei bod yn hanfodol bod capasiti ychwanegol ar gael er mwyn diogelu rhag cynnydd pellach mewn achosion coronafeirws.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgynghoriadau drwy gyswllt fideo wedi profi'n boblogaidd gyda chleifion a staff y GIG

Fe wnaeth Mr Gething ganmol y GIG am y ffordd y mae wedi bod yn barod i arloesi yn ystod yr argyfwng.

Mewn un pythefnos ym mis Mai cafwyd 977 yn fwy o ymgynghoriadau eu cynnal drwy gyswllt fideo, gyda 97% o gleifion ac 85% o glinigwyr yn disgrifio'r ffordd newydd o weithredu fel "da" neu "dda iawn".

Ond mae rhai pethau'n dal angen sylw cyn y gellid caniatáu codi mwy o gyfyngiadau, meddai, yn cynnwys sicrhau cyflenwadau digonol o ddillad a chyfarpar diogelwch PPE, meddyginiaethau, profion, lefelau staffio a hyfforddiant.

Mae wedi gofyn i'r GIG rannu adnoddau ac arbenigedd ar lefel ranbarthol i sicrhau fod cleifion yn cael y gofal gorau posib.

Ychwanegodd y byddai'r byrddau iechyd yn datblygu cynlluniau newydd ar gyfer ail chwarter y flwyddyn ariannol, fydd yn edrych ar gamau ar gyfer yr haf yn ogystal â sut i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y gaeaf, pe bai eu hangen.