Disgyblion i ddychwelyd i'r ysgolion ar 29 Mehefin

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ymateb rhai o rieni Cymru i gyhoeddiad y Gweinidog Addysg

Fe fydd disgyblion Cymru yn dychwelyd i'w hysgolion ar 29 Mehefin gyda'r tymor yn cael ei ymestyn tan 27 Gorffennaf.

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams y bydd yr holl flynyddoedd ysgol yn gallu dychwelyd - ond am amser cyfyngedig - yn ystod yr wythnos.

Dim ond un o bob tri o'r disgyblion fydd yn bresennol ar yr un amser, a bydd y dosbarthiadau yn "llawer llai".

Ond ychwanegodd y gweinidog y gallai'r penderfyniad i ailagor newid pe bai unrhyw beth yn digwydd yn yr wythnosau nesaf sy'n awgrymu nad yw'n ddiogel i wneud hynny.

Dywedodd Ms Williams: "Mae 29 Mehefin yn golygu y bydd mis llawn o brofi, olrhain a diogelu wedi bod a bydd yn parhau i ehangu hefyd.

"Hefyd gallaf gyhoeddi y bydd athrawon yn grŵp blaenoriaeth yn ein rhaglen profion gwrthgyrff newydd.

"Byddai aros tan mis Medi yn golygu bron i hanner blwyddyn heb addysgu - byddai hynny'n niweidiol i les, i gynnydd dysgu ac i iechyd meddwl ein pobl ifanc ni."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Kirsty Williams: Bydd y tymor yn cael ei ymestyn wythnos tan 27 Gorffennaf

Ond dywed un o'r undebau athrawon, yr NASUWT nad ydynt wedi gweld tystiolaeth wyddonol eto sy'n dangos ei bod yn ddiogel i ailagor ysgolion.

Bydd dysgu ar-lein yn parhau i fod yn rhan o'r amserlen.

Yr awdurdodau lleol a'r ysgolion unigol fydd yn gyfrifol am drefniadau eu hunai.

Dywedodd Ms Williams na fydd yna unrhyw ddirwyon ar gyfer ysgolion a rhieni sydd ddim yn cydymffurfio,

Yn ogystal dywedodd mai'r bwriad yw ymestyn hanner tymor mis Hydref y tymor academaidd nesaf i bythefnos yn hytrach nag wythnos.

Hefyd fe fydd plant sy'n hunan ynysu am resymau meddygol yn parhau i gael eu haddysg ar-lein.

Dywedodd y gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhagor o ganllawiau ar gyfer awdurdodau ac ysgolion yr wythnos nesaf.

Mae disgwyl y bydd colegau addysg bellach yn ailagor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb o 15 Mehefin ymlaen.

Mae ysgolion yng Nghymru wedi bod ar gau ers 20 Mawrth. Plant gweithwyr allweddol neu'r rhai sy'n cael eu hystyried yn fregus yw'r unig ddisgyblion o Gymru sydd wedi bod yn yr ysgol yn ystod y cyfnod cloi.

Dychwelodd llawer o ddisgyblion yn Lloegr i'r ysgol yr wythnos hon, tra yn Yr Alban - lle mae gwyliau'r haf yn gynharach - bydd disgyblion yn dychwelyd ar 11 Awst.

Ymateb undebau i'r cyhoeddiad

Dyw undeb athrawon yr NASUWT ddim yn hapus gyda'r cyhoeddiad gan ddweud fod angen mwy o dystiolaeth.

Dywedodd Neil Butler, swyddog cenedlaethol yr undeb yng Nghymru: "Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o broblemau mawr ymbellhau cymdeithasol mewn ysgolion, yn enwedig i blant iau.

"Mae'r Gweinidog hefyd wedi cyfaddef fod hyn yn rhyw fath o 'check-in' a -'catch-up' felly yn amlwg does dim pwrpas addysgol y tu ôl i'r penderfyniad.

"Dyw'r rhesymau yma ddim yn ddigon da i beryglu bywydau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae ysgolion yng Nghymru wedi bod ar gau ers 20 Mawrth.

Mae undeb NEU Cymru hefyd wedi condemnio'r cynllun, gan ei ddisgrifio fel "gormod yn rhy fuan".

Dywedodd David Evans o'r undeb fod pryder y bydd cannoedd o ddisgyblion yn mynd i rai ysgolion cyfun ar yr un pryd, ac fe gwestiynodd sut bod y penderfyniad yn glynu at y pum maen prawf a gyhoeddwyd yn gynharach yn y pandemig.

Ychwanegodd y byddai'n cynghori aelodau i beidio dychwelyd i ysgolion os ydyn nhw'n teimlo fod y risg yn ormod iddyn nhw wneud hynny.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Rydym yn gresynu'n fawr at y ffaith fod y Llywodraeth wedi anwybyddu barn yr undebau mai blynyddoedd 6, 10 a 12 ddylai fod wedi cael blaenoriaeth petai unrhyw ailagor cyn yr haf.

"Mae creu amgylchedd mor ddiogel â phosib i bawb tra'n cynnal awyrgylch groesawgar a chefnogol yn her anferthol.

"Rydym yn gwbl ymwybodol o'r manteision posib i ddisgyblion o ddychwelyd am rywfaint cyn yr haf, ond rhaid cydbwyso'r manteision posib hynny gyda'r risgiau - i'r disgyblion eu hunain, i staff ac i gymunedau ehangach yr ysgolion.

"Yn syml iawn, po fwyaf o blant, mwya'r risg, ac o geisio rhoi sylw i bawb, mi fydd yn anoddach byth sicrhau'r sylw haeddiannol i'r disgyblion hynny sy'n flaenoriaeth yn y tymor byr, sef blynyddoedd 6, 10 a 12.

"Byddwn yn pwysleisio pryderon ein haelodau yn ysgrifenedig ac mewn cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru yn y modd cryfaf posib."

Rhai yn gefnogol i'r egwyddor

Ar y llaw arall, roedd undeb NAHT Cymru yn gefnogol o'r egwyddor o ddychwelyd os nad y manylion. Dywedodd yr undeb mewn datganiad: "O'r opsiynau a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru dyma oedd dewis ein haelodau, ond mae angen ateb rhai pryderon am bethau ymarferol.

"Mae'r bwriad o gael pob plentyn i ddychwelyd yn fwy o broblem, ac yn erbyn ein dymuniad i flaenoriaethu rhai grwpiau. Mae arweinwyr ysgolion wedi mynegi pryder am logisteg gael pobl plentyn i mewn ar adegau gwahanol, yn enwedig o ystyried cyn lleied o amser sydd yna i drefnu hyn."

Dywedodd Eithne Hughes - cyfarwyddwr ASCL Cymru, y corff sy'n cynrychioli arweinwyr ysgolion a cholegau - ei bod yn cefnogi'r cynlluniau.

"Mae'n llwybr synhwyrol sy'n cydbwyso blaenoriaethau addysg a chael plant yn ôl yn y dosbarth mor fuan â phosib, gyda'r flaenoriaeth iechyd cyhoeddus o sicrhau fod hyn yn cael ei wneud yn y modd mwyaf diogel posib.

"Rydym yn ddiolchgar am y modd adeiladol mae Llywodraeth Cymru wedi trafod hyn gyda ni."