Dynes wedi marw ar ôl tân mewn eiddo ger Dolgellau

  • Cyhoeddwyd
Bontddu

Mae dynes wedi marw yn dilyn tân mewn eiddo yn ardal Bontddu ger Dolgellau.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r adeilad ar yr A496 am 09:09 ddydd Gwener.

Cafodd dynes eu hachub o'r adeilad - cyn westy Neuadd Bontddu - gan ddiffoddwyr tân ond bu farw yn y fan a'r lle.

Bydd y gwasanaeth tân a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i geisio dod o hyd i achos y tân.

Disgrifiad,

Tan Bontddu

Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Peredur Jenkins: "Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn Neuadd Bontddu yn drasiedi, ac rwyf i a'r gymuned leol yn estyn ein cydymdeimlad i deulu'r ddynes fu farw.

"Mae'n drist hefyd bod adeilad eiconig lleol wedi ei ddinistrio'n llwyr bron. Hoffwn ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu gwaith ar y safle."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd criwiau o Ddolgellau, Harlech, Bermo, Y Bala a Blaenau Ffestiniog eu galw